Prosiect Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol (EOTAS)
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif a Chyngor Abertawe.
Yr ydym yn rhoi cynlluniau ar waith i weddnewid addysg rhai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn Abertawe ac i wella'u cyfleoedd mewn bywyd yn sylweddol. Mae Cyngor Abertawe wedi cael caniatad i adeiladu uned atgyfeirio disyblion (UAD) newydd Abertawe ar dir y tu ôl i Dŷ cocyd ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â'r contractiwr penodedig i gyflwyno adeilad newydd yr ysgol fel ei fod ar agor i ddisgyblion yng Ngwanwyn 2021.
Mae'r prosiect yn cynnwys:
Llety newydd ar gyfer yr uned atgyfeirio disgyblion, a fydd yn darparu:
- lles gwell i ddysgwyr a staff;
- adeiladau a chyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif;
- cwricwlwm ehangach a mwy effiethiol;
- canlyniadau academaidd ac ehangach gwell i ddysgwyr;
- nifer o'r adeiladau presennol yn cael eu dymchwel.
Diweddariad cynnydd - Tachwedd 2020
- Gwaith brics y prif adeilad a gwblhawyd ym mis Mehefin 2020.
- Cwblhawyd gwaith to ym mis Mehefin 2020.
- Cwblhawyd y waliau ym mis Medi 2020.
- Cwblhawyd gosodiadau gwasanaeth ym mis Hydref 2020.
Ceir crynodeb o gerrig milltir allweddol y prosiect isod.
| Garreg filltir | Dyddiad |
|---|---|
| Cyfnod cyn-adeiladu | |
| Penodi Pennaeth UAD Abertawe | Rhagfyr 2016 |
| Dechrau ymgynghoriad | Ionawr 2017 |
| Comisiynu astudiaeth dichonoldeb a dyluniad ar gyfer adeiladau | Ionawr 2017 |
| Pennaeth UAD Abertawe'n dechrau ei dyletswyddau | Ebrill 2017 |
| Hysbysebu am swyddi Uwch-dim Arweinyddiaeth UAD Abertawe | Mai 2017 |
| Hysbyseb swyddi'r Tim Cefnogi | Mai 2017 |
| Penodi ar gyfer swyddi sy'n weddill yn y Tim Cefnogi | Mai 2017 |
| Uwch-dim Arweinyddiaeth ai'r Tim Cefnogi'n dechrau ei dyletswyddau | Awst 2017 |
| Dechrau rhoi model gwasanaeth newydd ar waith | Medi 2017 |
| Parhau gyda chais cynllunio ar gyfer adeilad newydd yn amodol ar ganlyniad y broses ddylunio / astudiaeth dichonoldeb | Hydref 2017 |
| Cyfnod caffael adeiladu | Gorffennaf - Medi 2018 |
| Cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru o'r Achos Busnes Llawn | Hydref 2018 |
| Cyfnod adeiladu | |
| Dechrau ar waith dymchwel ac adeiladu | Ionawr - Mawrth 201 |
| Cwblhau'r gwaith i adeiladu'r adeilad newydd (yn amodol ar gyllid a chaniatad cynllunio) | Rhagfyr 2020 |
| Y cyfleuster yn agor i ddisyblion | Ionawr 2021 |
Tim y prosiect Addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol (EOTAS)
| Enw | Teitl y swydd |
|---|---|
| Amanda Taylor | Pennaeth UAD Abertawe |
| Alayne Smith | Rheolwr Datblygu Achosion Busnes Ysgolion |
| Stuart Page | Swyddog Cefnogi'r Prosiect |
| Darrel Barnes | Rheolwr Dylunio Pensaemiol |
| Antony Davies / Charlotte Balcombe | Pensaer Dylunio - Powell Dobson Architects |
| Nigel Hawkins | Rheolwr Prosiectau a Chaffael / Uwchsyrfewr Meintiau |
| Peter Rogers | Swyddog Adeiladu, Dylunio a Rhoeli |
| Jason Bowen | Rheolwr y Prosect, Kier Western Ltd |
Manteision cymundedol
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cwmniau lleol a chreu swyddi i bobl leol. Yn ystod y gwaith, bydd y prif gontractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol, lle bo modd, ar gyfer deunyddiau a chynhyrchion. Bydd contractwyr yn cael eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith.
Ymgysylltu a disgyblion
Bydd ymgysylltu a STEM (gwydoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn rhan annatod o'r prosiect. Bydd y contractwr a'r Cyngor yn cydweithio i gefnogi cyfleoedd dysgu ym mhob rhan o'r prosiect adeiladu.
Prosiectau cymunedol
Fel rhan o'r prosiect bydd disgwyl i'r contractwr gefnogi mentrau lleol yn yr ardal. Darperir rhagor o fanylion am hyn wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.
