Pryniannau'r Gofrestr Etholiadol
Gall etholwyr brynu'r gofrestr agored.
Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol y gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu wrth dalu'r ffi a bennir. Mae'r ffi yn dibynnu ar nifer yr etholwyr o fewn ardal etholiadol neu adran etholiadol a p'un a oes angen y gofrestr ar ffurf argraffedig neu ddata.
• Data: £20 yn ogystal â £1.50 fesul 1,000 o gofnodion (neu unrhyw nifer o gofnodion sy'n llai na 1,000).
• Wedi'i hargraffu: £10 yn ogystal â £5 fesul 1,000 o gofnodion (neu unrhyw nifer o gofnodion sy'n llai na 1,000).
Gall etholwyr ddewis peidio ag ymddangos ar y gofrestr agored os ydynt yn dymuno gwneud hynny trwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol. Nid yw tynnu eich manylion o'r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.
Llenwch y ffurflen gais berthnasol os ydych chi am brynu cofrestr agored a bydd aelod o staff o'r tîm Etholiadau'n cysylltu â chi i drefnu taliad.