Toglo gwelededd dewislen symudol

Lluniau newydd yn arddangos datblygiad arfaethedig newydd yng nghanol y ddinas

Mae'r lluniau cyffrous newydd hyn yn rhoi'r cipolwg cyntaf ar ddatblygiad swyddfeydd pwysig sy'n cael ei gynllunio ar gyfer canol dinas Abertawe.

Public sector hub (Exterior CGI)

Public sector hub (Exterior CGI)

Bydd y datblygiad swyddfeydd arfaethedig yn gartref i'r hwb sector cyhoeddus newydd sy'n cael ei ystyried ar gyfer safle yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant.

Yn hanfodol, bydd yr hwb sector cyhoeddus hefyd yn galluogi ailddatblygiad y Ganolfan Ddinesig. Bwriedir i gannoedd o staff y Cyngor gael eu lleoli yn yr hwb sector cyhoeddus yn ogystal â gweithwyr o sefydliadau sector cyhoeddus eraill.

Bydd y datblygiad hwn yn dilyn cyflwyno prif gynlluniau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys Arena Abertawe, gorffen gwaith yn natblygiad Bae Copr, hwb gwasanaethau cymunedol Y Storfa yn hen adeilad BHS, ailwampio Sgwâr y Castell, a'r cynllun swyddfeydd newydd sy'n datblygu yn 71/72 Ffordd y Brenin.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw canol dinas Abertawe i bobl leol a busnesau lleol, a dyma pam y mae rhaglen adfywio gwerth £1bn yn cael ei datblygu yno i greu swyddi, cefnogi busnesau a hybu ein heconomi.

Disgwylir i gynllun yr hwb sector cyhoeddus gael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn.

Os caiff ei gymeradwyo yno, disgwylir ymgynghoriad ym mis Awst i roi cyfle i bobl gynnig eu hadborth ar y cynlluniau.

Public sector hub (Interior CGI)

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Gorffenaf 2024