Y ddinas yn parhau i chwifio'r faner dros ddiogelwch gyda'r hwyr
Mae bywyd nos Abertawe'n parhau i chwifio'r Faner Borffor am y degfed flwyddyn yn olynol.
Mae'r faner yn nodi y gall ymwelwyr ddisgwyl noson allan ddifyr, amrywiol, ddiogel a phleserus yng nghanol y ddinas.
Mae partneriaeth o sefydliadau allweddol wedi cadw statws y Faner Borffor trwy 2024. Roedd ymgais lwyddiannus yn nodi amrywiaeth eang o resymau pam mai canol y ddinas yw'r lle i fod.
Mae'r wobr yn cydnabod rhagoriaeth economi Abertawe gyda'r hwyr o 5pm tan 5am.
Llun: partneriaid economi gyda'r hwyr Abertawe'n dathlu deng mlynedd o feddu ar statws y Faner Borffor.