Y Cwadrant yn rhagori ar dueddiadau siopa'r DU dros y Nadolig
Mae Canolfan Siopa'r Cwadrant Abertawe wedi profi ei chyfnod masnachu mwyaf llwyddiannus ers 2019 yn dilyn mis Rhagfyr hynod brysur
Roedd twf o flwyddyn i flwyddyn o 17% yng ngwerthiannau manwerthwyr dros y mis, tra bod y cynnydd cyfartalog ar draws gweddill y DU wedi cyrraedd +1.7% yn unig.
Meddai Lisa Hartley, Rheolwr Canolfan Siopa'r Cwadrant , "Mae'r ystadegau hyn yn gadarnhaol dros ben i ni yn y Cwadrant, ond hefyd i Abertawe gyfan."
Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr Bid Abertawe, "Mae'r ffigurau hyn yn hynod gadarnhaol i Abertawe. Mae'r Cwadrant yn rhan mor ganolog o'r ddinas ac mae'r siopau newydd sydd wedi agor yno dros y tri mis diwethaf wedi bod yn hanfodol ar gyfer gwella cymysgedd manwerthu'r ddinas sy'n datblygu."
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw canol dinas Abertawe i'n preswylwyr, ein busnesau ac ymwelwyr â'r ddinas.
"Dyna pam mae rhaglen adfywio gwerth £1bn yn mynd rhagddi er mwyn creu cyrchfan bywiog, defnydd cymysg, lle gall pobl siopa, mwynhau, byw, astudio ac ymweld ag ef.
"Mae'r ffigurau hyn am nifer yr ymwelwyr yn galonogol ac yn profi pa mor galed mae busnesau, eu staff a phawb sy'n rhan o redeg ac adfywio canol y ddinas wedi gweithio."