Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth, gan ddechrau gyda stori dylwyth teg glasurol

​​​​​​​Mae teuluoedd yn cael eu gwahodd i bacio picnic ac ymweld â Chastell Ystumllwynarth am brynhawn o hwyl theatr fyw i bob oed.

Oystermouth Castle

Oystermouth Castle

Bydd y rheini sy'n dod i'r sioe ddydd Gwener hwn (sylwer, 5 Awst) yn gallu dianc i'r awyr agored gyda'r stori dylwyth deg, Rapunzel, am ferch sy'n dyheu am ddianc o'i chaethiwed ac archwilio'r byd y tu allan. 

Gyda gwrachod drwg, ellyll cariadus, tywysog rhamantus a milltiroedd o wallt euraid, bydd y sioe yn cynnwys hiwmor slapstic, pypedwaith a llawer mwy.

Caiff ei chyflwyno yn y lleoliad a reolir gan Gyngor Abertawe gan gwmni theatr IKP.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Dylai hyn fod yn ddigwyddiad hyfryd, difyr a chyffrous i bawb.

Byddem yn annog y rheini sy'n dod i'r digwyddiad i ddod â chadair wersylla, blanced a phicnic neu fyrbrydau, yna eistedd yn ôl, ymlacio a gwylio'r sioe ar dir y castell.

Rapunzel yw'r cyntaf o ddau berfformiad cyffrous yng Nghastell Ystumllwynarth, gydag A Midsummer Night's Dream yn dilyn ar 25 Awst am 7.30pm, sy'n addo noson o adloniant gwych.

Bydd y drysau'n agor am 1pm ddydd Gwener, a'r sioe yn dechrau am 2pm. Noddir y digwyddiad gan y cwmni o Abertawe Home from Home.

I archebu - https://www.croesobaeabertawe.com/events/theatr-awyr-agored-rapunzel/ 

Fideo - https://www.facebook.com/294569343926305/videos/831665814465890 

 

 

Close Dewis iaith