Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Abertawe yn rhoi sicrwydd dros Buckingham Group

Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi sicrwydd i breswylwyr a busnesau yn dilyn newyddion bod Buckingham Group wedi cymryd camau i osgoi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Swansea Council Logo (landscape)

Buckingham Group yw prif gontractwr y cyngor ar gyfer ardal Bae Copr y ddinas sy'n ymestyn o hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant i ardal y marina. 

Ddoe, ffeiliodd Buckingham hysbysiad o fwriad i benodi gweinyddwyr, sy'n gam y gall cwmnïau ei gymryd cyn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr o bosib. 

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Abertawe, "Mae Buckingham wedi cymryd camau i osgoi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a'n gobaith yw y bydd hyn yn sicrhau dyfodol y cwmni.

"Yn y cyfamser, gallwn roi sicrwydd i breswylwyr a busnesau yn Abertawe bod y cyngor yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn ein sefyllfa.

"Mae ardal Bae Copr bellach wedi'i chwblhau ar y cyfan ac mae'n fusnes fel arfer yn Arena Abertawe a'i maes parcio, waeth beth fo dyfodol Buckingham.

"Ar hyn o bryd, gwaith gorffen yn unig y mae Buckingham yn ei wneud i'r maes parcio ar ochr canol y ddinas i Oystermouth Road yn ogystal â mân waith gorffen mewn mannau eraill ar y safle. Rydym yn canolbwyntio ar gwblhau'r gwaith hwn, ac rydym yn trafod hyn gyda Buckingham. 

"Mae'r cyngor wedi diogelu ei sefyllfa ariannol. Roedd y gwaith gorffen eisoes yn cael ei wneud heb unrhyw gost i'r cyngor na threthdalwyr Abertawe, ac nid ydym yn rhagweld y bydd sefyllfa Buckingham yn arwain at gostau ychwanegol i'r cyngor.

"Mae rhaglen adfywio gwerth £1 biliwn Abertawe ar y trywydd iawn ac nid yw sefyllfa Buckingham yn effeithio arni gan nad oes ganddynt unrhyw gontractau eraill gyda'r cyngor."

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2023