Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiadau gwerth miliynau yn fwy yn yr arfaeth i roi hwb pellach i adferiad y ddinas

Mae pecyn buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd yn yr arfaeth i helpu Abertawe i adfer o effaith y pandemig.

View of Swansea

View of Swansea

Gan adeiladu ar y gwaith y mae Cyngor Abertawe eisoes wedi'i wneud ers dechrau COVID, mae nifer o gynlluniau newydd bellach i'w cymeradwyo i gefnogi hyd yn oed mwy o breswylwyr, teuluoedd, cymunedau a busnesau.

Ymysg y cynlluniau sydd i'w cymeradwyo mae gwaith i uwchraddio holl ardaloedd chwarae'r ddinas sy'n eiddo i'r cyngor i safon uchel, yn dilyn gwelliannau i ddwsinau ohonynt yn 2021. Hefyd i'w gymeradwyo mae cynllun i asesu a gwella holl gyfleusterau parciau sglefrio Abertawe.

Mae cynlluniau arfaethedig pellach yn cynnwys canolfan ddata newydd a gwell yn Neuadd y Ddinas, a fyddai'n cael ei hadleoli o'r Ganolfan Ddinesig sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer ailddatblygiad. Bydd hyn yn helpu i ddiwallu anghenion mwy a mwy o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein y cyngor, yn ogystal â symudiad y cyngor tuag at drefniadau gwaith mwy ystwyth i'w staff.

Fel elfen allweddol wrth gefnogi gwasanaethau digidol y cyngor, rhagwelir y byddai'r ganolfan ddata well yn Neuadd y Ddinas tua 60% yn llai na'i maint presennol, gan helpu i sicrhau arbedion ynni sylweddol gan hefyd wella effeithlonrwydd, storfeydd data, seiberddiogelwch a chadernid y gwasanaeth. Byddai costau cyflwyno'r ganolfan ddata newydd yn cael eu talu gan gyllid o gronfa wrth gefn y cyngor.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae cynifer o adrannau'r cyngor wedi gwneud llawer iawn o waith drwy gydol y pandemig hyd yma i gefnogi'n preswylwyr, ein cymunedau a'n busnesau.

"Mae hyn wedi cynnwys sefydlu a rhedeg banciau bwyd a gwasanaethau Monitro ac Olrhain wrth barhau i gefnogi'r digartref, ein plant sy'n derbyn gofal, ein gofalwyr, ein plant ysgol, pobl sy'n gwarchod a'r rheini mewn gofal cymdeithasol.

"Mae cefnogaeth arall wedi cynnwys dyrannu grantiau gwerth dros £150m i'n busnesau ac uwchraddio mwy na 30 o ardaloedd chwarae er budd plant a theuluoedd, ond bydd y buddsoddiad mawr hwn yn parhau ymhell i 2022 a thu hwnt iddi.

"Yn ogystal â'n cynlluniau newydd i uwchraddio holl ardaloedd chwarae'r cyngor a gwella cyfleusterau parciau sglefrio Abertawe, rydym hefyd yn bwriadu gwella'n systemau a'n gwasanaethau digidol, y maen nhw wedi bod mor bwysig i gannoedd ar filoedd o bobl yn ystod y pandemig.

"Bydd y ganolfan ddata newydd a gwell yn gwneud y systemau a'r gwasanaethau digidol hyn yn fwy effeithlon a chadarn am flynyddoedd i ddod ac yn helpu i leihau ôl-troed carbon y cyngor hefyd oherwydd yr arbedion ynni y bydd hyn yn eu creu.

"Mae'r rhain ymysg pecyn o fesurau newydd sydd i'w roi ar waith wrth i'r cyngor barhau i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi Abertawe, wrth sicrhau bod y ddinas mewn sefyllfa dda i adfer yn gyflym o effaith y pandemig."

Mae mesurau eraill yn cynnwys cryfhau cronfa adfer economaidd y cyngor, y mae disgwyl iddi gael ei chynyddu o £20m i £25m.

Mae prosiectau a ariannwyd gan gronfa adfer economaidd y cyngor hyd yn hyn yn cynnwys cynlluniau bysus am ddim i helpu annog pobl i siopa'n lleol, darparu gofod cyhoeddus y tu allan am ddim i fusnesau ehangu, a chaniatáu i lawer o glybiau pêl-droed, criced a bowls ddefnyddio caeau chwaraeon am ddim yn Abertawe.

Close Dewis iaith