Rhaglen adfywio'n rhoi hwb i fusnesau Abertawe
Mae rhaglen adfywio gyfredol Abertawe wedi cefnogi'r ddinas llawer ers iddi ddod allan o'r pandemig, yn ôl arweinydd busnes.
Dywedodd Lisa Hartley, Rheolwr Canolfan Siopa'r Cwadrant fod datblygiadau fel Arena Abertawe wedi codi proffil canol y ddinas wrth hefyd ddenu mwy o ymwelwyr.
Mae'r arena, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir gan Ambassador Theatre Group, yn un nodwedd ar raglen adfywio gwerth dros £1bn ar gyfer y ddinas.
Mae prosiectau eraill a arweinir gan y cyngor yn cynnwys y gwaith sy'n mynd ymlaen i adeiladu datblygiad swyddfeydd hyblyg, modern i 600 o weithwyr mewn sectorau fel technoleg a digidol ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin.
Mae cynlluniau hefyd ar waith i ailwampio Gerddi Sgwâr y Castell, a fydd yn cynnwys llawer mwy o wyrddni, ardaloedd eistedd awyr agored, nodwedd ddŵr newydd a digonedd o nodweddion eraill.
Meddai Lisa: "Fel cyrchfan siopa allweddol canol y ddinas, rydym eisoes yn gweld manteision Arena Abertawe. Mae wedi denu miloedd o ymwelwyr â'r ddinas, sydd wedi cael effaith sylweddol ar nifer yr ymwelwyr â'r Cwadrant, yn enwedig yn dilyn dwy flynedd anodd y pandemig.
"Rydym yn gyffrous iawn i brofi effeithiau dilynol cadarnhaol y datblygiadau preswyl a swyddfeydd sydd ar waith yn Abertawe. Gyda mwy o ymwelwyr daw mwy o fusnesau sydd am fuddsoddi yn y ddinas, a mwy o fanwerthwyr sydd am gael presenoldeb yng nghanol y ddinas. Bydd y datblygiadau parhaus yn gadarnhaol i'r rhanbarth."
Mae Ben Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Belvoir Swansea hefyd yn teimlo bod yr holl waith adfywio sydd naill ai wedi'i gwblhau, yn mynd rhagddo neu wedi'i gynllunio, yn galonogol.
Meddai, "Rydym yn gyffrous iawn am y datblygiadau parhaus sy'n mynd rhagddynt ar draws Abertawe. Fel asiantaeth eiddo, rydym yn hynod gyffrous. Wrth i ragor o ddatblygiadau fel yr arena barhau i wneud Abertawe'n ddinas sy'n gyrchfan, bydd rhagor o bobl yn awyddus i symud yma. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y farchnad dai a datblygwyr preswyl sy'n chwilio am gyfleoedd newydd yn y rhanbarth.
"Rwy'n credu bod gan Abertawe gymaint o botensial nad ydym yn manteisio arno. Rwyf wedi byw tramor ac wedi profi llawer o ddinasoedd gwych, ond rwyf bob amser wedi credu bod gan Abertawe'r potensial i fod yn ddinas anhygoel. Gyda rhagor o fuddsoddiad daw rhagor o gyfleoedd i bobl a busnesau ffynnu. Rwy'n frwd dros y dirwedd newidiol hon ac edrychaf ymlaen at weld yr effaith y bydd yn ei chael ar fy musnes."
Mae cynlluniau eraill a arweinir gan y cyngor yn cynnwys y gwaith cadwraeth a thrawsnewid parhaus yn Theatr y Palace a gwaith cadwraeth ac adeiladu ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, sydd wedi paratoi'r ffordd i Ddistyllfa Penderyn agor distyllfa gweithredol a chanolfan i ymwelwyr yno dros y misoedd nesaf.
Mae hwb gwasanaethau cyhoeddus hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen.