Prosiect gwyrdd o'r radd flaenaf yn datblygu'n dda yn Abertawe
Mae cynlluniau mawr a fydd yn rhoi Abertawe ar flaen y gad o ran arloesi ynni adnewyddadwy byd-eang ar fin cymryd cam mawr ymlaen.
Mae Cyngor Abertawe ar y camau terfynol o gytuno i brydlesu nifer o safleoedd i DST Innovations - y cwmni sy'n arwain y prosiect i ddatblygu porth Abertawe, a elwid gynt yn Eden Las, sy'n costio oddeutu £4bn ac yn cael ei ariannu gan y sector preifat.
Gallai'r cynlluniau cyffrous gynnwys:
• Ehangu safle maes parcio Fabian Way i greu hwb trafnidiaeth ynni gwyrdd a allai gynnwys gorsaf gweithgynhyrchu hydrogen ar gyfer trafnidiaeth sy'n cael ei bweru gan hydrogen, digonedd o fannau gwefru cerbydau trydan, a bwytai a mannau gweithio hyblyg i ymwelwyr eu mwynhau.
• Ehangu ar gynlluniau fferm solar sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar hen safle tirlenwi Tir John i greu un o gyfleusterau cynhyrchu ynni solar mwyaf y DU.
• Cyfleuster gweithgynhyrchu newydd ar hen safle Morrissey yn SA1 i greu batris uwch-dechnoleg a fyddai'n storio'r ynni adnewyddadwy sy'n cael ei greu gan y prosiect ac ar gyfer dosbarthiad byd-eang.
Mae elfennau eraill o'r cynllun yn cynnwys morlyn llanw, cyfleuster solar sy'n arnofio, canolfan ddata ar raddfa fawr sy'n cael ei phweru gan ynni adnewyddadwy, canolfan ymchwil y dyfroedd a newid yn yr hinsawdd, eco-gartrefi ynni effeithlon wedi'u hangori yn y dŵr a system gwresogi ardal newydd sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy. Byddai'r datblygiad hefyd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer syniadau arloesol eraill mewn technoleg adnewyddadwy.
Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda DST Innovations i benderfynu pa dir sydd ei angen i gwblhau'r datblygiad. Disgwylir i'r prosiect fod gwerth £114m y flwyddyn i economi Abertawe unwaith y mae'n weithredol, ac iddo greu hyd at 2,500 o swyddi amser llawn.
Datblygwyd y cynigion yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU yn 2018 i beidio â chefnogi cynlluniau ar gyfer morlyn llanw yn Abertawe. Ers hynny mae'r cyngor wedi bod yn gweithio i ddod o hyd i ateb gyda DST a'i bartneriaid i ddatblygu cynllun a ariennir gan y sector preifat.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae gennym ddyheadau i drawsnewid ein heconomi a dod yn ddinas sero-net erbyn 2050.
"Bydd y cynigion hyn yn ein helpu i gyflawni'r ddau ddyhead. Bydd yn dod â swyddi i Abertawe yn ogystal â rhoi hwb economaidd enfawr i'r ddinas a bydd yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Byddai'r morlyn arfaethedig hefyd yn helpu i fynd i'r afael â pheryglon llifogydd ar gyfer Abertawe ac SA1 yn y dyfodol.
"Mae cynnydd mawr yn cael ei wneud ar y datblygiad hwn, a bydd y cynigion tir arfaethedig yn sicrhau y gall gwaith ddechrau i wneud Abertawe'n bwerdy byd-eang ar gyfer arloesi ynni adnewyddadwy."
Meddai Tony Miles, o DST Innovations, "Rydym yn hynod gyffrous am y cynnydd rydym wedi'i wneud ar y prosiect uchelgeisiol hwn. Mae'r garreg filltir hon yn cynrychioli cam mawr ymlaen, a wnaed yn bosib gan ymdrechion cydweithredol Cyngor Abertawe, ein tîm rhagorol a'n partneriaid o safon fyd-eang. Mae eu gwybodaeth ddigyffelyb, eu harloesedd a'u cefnogaeth ddiwyro wedi bod yn allweddol wrth i ni fynd ar drywydd llwyddiant."
Mae consortiwm rhyngwladol o gwmnïau mawr eisoes wedi cytuno i helpu i gyflawni'r prosiect. Mae'r cwmni peirianneg ac adeiladu mawr, HDR a'r arbenigwyr atebion isadeiledd, Enable ymysg y cwmnïau sydd eisoes wedi cofrestru, ynghyd ag Ascona Group, un o'r gweithredwyr blaen-gwrt sy'n tyfu cyflymaf yn y DU, a Siemens, cwmni technoleg byd-eang sy'n canolbwyntio ar drydaneiddio a digideiddio ar gyfer diwydiant, isadeiledd a thrafnidiaeth.