Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i gael mynediad at gynigion drwy ap canol y ddinas

Mae'n agos i 200 o fusnesau canol y ddinas bellach wedi'u cynnwys mewn ap newydd am ddim y mae preswylwyr Abertawe yn cael eu hannog i'w oso

City centre app launch

City centre app launch

Mae'r ap gwe blaengar i wobrwyo preswylwyr, a grëwyd ac a gynhelir gan Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe, yn cael ei ariannu drwy grant cychwynnol gan Gyngor Abertawe.

Gall preswylwyr elwa o'r ap newydd sy'n cymryd lle hen ap Calon Fawr Abertawe drwy fynd i app.bigheartofswansea.co.uk a'i osod ar eu dyfeisiau symudol. 

Mae'r ap gwe blaengar yn cynnwys mynediad at gynigion mewn siopau a bwytai yng nghanol y ddinas a chyfeiriadur o fusnesau canol y ddinas sy'n dangos gwybodaeth fel amserau agor, eu lleoliadau a chyfeiriadau i'w cyrraedd.

Mae nodweddion eraill yn cynnwys adran 'Digwyddiadau' gyda rhestr o ddigwyddiadau canol y ddinas yn ogystal ag adran bwyta allan gyda rhestr o fwytai a chaffis yng nghanol y ddinas. 

Mae mwy na 750 o bobl eisoes wedi gosod yr ap, sydd bellach yn cynnwys 27 o gynigion.

Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae'r ap gwobrwyo i breswylwyr yn siop dan yr unto i bobl lle gallant gael gafael ar bob math o wybodaeth am ganol y ddinas - o'r busnesau a'r digwyddiadau yno i gynigion sydd ar gael i breswylwyr Abertawe'n unig.

"Mae'r ap hefyd yn golygu y gall pobl Abertawe gael gafael ar yr wybodaeth hon o'u dyfeisiau symudol pan fyddant yn mynd o gwmpas y lle.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn ogystal â bod o fudd i breswylwyr Abertawe, nod yr ap hwn hefyd yw hybu masnach ac ymwelwyr â chanol y ddinas drwy annog mwy o bobl i ymweld a darganfod popeth sydd ar gael yno.

"Rydym yn cydnabod yn fawr bwysigrwydd canol ein dinas, a dyma paham y mae cynlluniau fel yr ap ar waith, i ategu rhaglen adfywio gwerth £1bn sy'n parhau.

"Mae'r cyngor hefyd yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol #JoioCanolEichDinas i gynyddu ymwybyddiaeth o fusnesau rhagorol canol y ddinas ac rydym yn datblygu cynllun gyda AGB Abertawe a phartneriaid eraill i hyrwyddo canol y ddinas yn y misoedd sy'n dod ac wedi hynny."

Caiff lleoliadau a gwybodaeth am yr holl feysydd parcio yng nghanol y ddinas a reolir gan y cyngor, lle mae modurwyr yn talu £1 yr awr i barcio gydag uchafswm o £5 i barcio am y diwrnod cyfan, bellach eu cynnwys ar yr ap. 

I ddangos eu bod yn byw yn Abertawe a chael mynediad at y cynigion ar yr ap, gall preswylwyr greu cyfrif drwy fynd i dudalen fewngofnodi'r ap drwy'r ddewislen. Gofynnir iddynt wedyn i roi cyfeiriad e-bost, creu cyfrinair a chyflwyno'u côd post yn Abertawe. 

Pan fydd preswylwyr yn hawlio cynnig, bydd côd QR yn cael ei ddangos iddynt ar eu dyfais symudol y gallant ei ddefnyddio yn safle'r busnes sy'n darparu'r cynnig. 

Close Dewis iaith