Toglo gwelededd dewislen symudol

Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig yn dod â'i thaith i Abertawe

Bydd Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig yn dod â'i model 72 troedfedd o roced i Abertawe rhwng 22 a 26 Mehefin.

Rocket

Rocket

Bydd yn ymddangos ym Mharc yr Amgueddfa y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel rhan o daith Space for Everyone am ddim yr asiantaeth.

Mae'r fenter yn ceisio denu sylw'r genhedlaeth nesaf, gan arddangos diwydiant gofod a chyfleoedd gyrfa'r DU.

Bydd busnesau gofod, gan gynnwys Gofod Cymru a Space Forge o Gaerdydd yn bresennol ar gyfer y digwyddiad yn Abertawe, yn ogystal â sefydliadau eraill sy'n canolbwyntio ar bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, celfyddydau a mathemateg (STEAM).

Bydd ymwelwyr, gan gynnwys plant, teuluoedd ac athrawon, yn dysgu sut rydym yn elwa o dechnolegau'r gofod yn ein bywydau o ddydd i ddydd.

Meddai Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig, Ian Annett,"Mae ein taith yn gyfle cyffrous i ymwelwyr weld sut brofiad yw gweithio yn sector y gofod â'u llygaid eu hunain."

Mae'r daith yn addo profiad y gellir ymgolli ynddo, gyda phensetiau realiti rhithwir o'r radd flaenaf sy'n cynnig mewnwelediad i sut mae lansiad o'r DU yn edrych. Bydd ardaloedd rhyngweithiol yn esbonio rôl lloerennau a llwybrau gyrfa yn niwydiant gofod y DU.

Meddai'r gofodwr o Brydain, Tim Peake, "Bydd taith Space for Everyone yn arddangos gallu arbennig y gofod i ysbrydoli."

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Bydd ymweliad y daith ag Abertawe'n boblogaidd iawn ac yn helpu i ailddatgan y ddinas hon fel rhywle i fwynhau atyniadau a digwyddiadau gwych."

Nid oes angen cadw lle er mwyn ymweld â'r daith, ac er bod y digwyddiad yn addas ar gyfer plant rhwng 9 a 18 oed yn bennaf, mae'n addas i bobl o bob oedran.

Rhagor o wybodaeth: https://spaceperson.co.uk/rocket-tour/

Cyfryngau cymdeithasol: @spacegovuk

Llun: Taith Space for Everyone - yn Abertawe rhwng 22 a 26 Mehefin

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mehefin 2023