Gwahoddir ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau yng nghymunedau gwledig Abertawe
Mae ceisiadau am gyllid bellach ar agor ar gyfer prosiectau sydd â'r nod o hybu cymunedau gwledig Abertawe.
Mae cyllid grant ar gael ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi themâu gan gynnwys yr economi wledig a phrofiad ymwelwyr, yr amgylchedd naturiol ac argyfwng hinsawdd, arloesedd, ac iechyd a lles.
Mae'r cyllid yn rhan o brosiect angori gwledig sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe a'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae prosiectau a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid yn cynnwys grantiau cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy er budd cymunedol. Gallai prosiectau posib gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau cymunedol neu fannau gwefru cymunedol ar gyfer ceir a beiciau.
Mae grantiau refeniw hefyd ar gael ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys:
· Cynlluniau bioamrywiaeth fel prosiectau gwyrddi gwledig ar gyfer gwella bioamrywiaeth, tyfu cymunedol neu ailddefnyddio mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio unwaith eto drwy fioamrywiaeth.
· Cynlluniau gwirfoddoli i annog grwpiau mewn cymunedau gwledig, a allai gynnwys trafnidiaeth gymunedol, cynlluniau amgylcheddol neu gyfeillio, a gweithredu yn y gymuned.
· Astudiaethau dichonoldeb gyda chynlluniau sydd wedi'u costio'n llawn i helpu gyda datgloi cymorth ariannol yn y dyfodol. Gallai'r rhain fod ar gyfer cynllun trafnidiaeth gymunedol neu gyfleusterau cymunedol fel amgueddfa neu ganolfan.
· Marchnadoedd gwledig lleol a llwybrau ymwelwyr i wella nifer yr ymwelwyr ar strydoedd mawr gwledig. Gallai'r rhain gynnwys digwyddiadau dros dro, ymgyrchoedd marchnata a datblygu apiau.
Gall prosiectau refeniw dderbyn hyd at £15,000 a gall prosiectau cyfalaf dderbyn hyd at £25,000.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae llawer o gymunedau gwledig ledled Dinas a Sir Abertawe, a dyna pam y gwnaethom sicrhau bod prosiect angori gwledig yn rhan o'r cyllid a oedd ar gael gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
"O gynlluniau i greu rhagor o fioamrywiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus i brosiectau sydd â'r nod o hybu ein heconomi wledig, mae llawer o ffyrdd y gall ymgeiswyr yn ein cymunedau gwledig bellach elwa o'r cyllid hwn.
"Mae'r prosiect angori gwledig ymysg llawer sy'n cael eu cynnal gan y cyngor a'u hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin wrth i ni geisio sicrhau cynifer o fanteision â phosib i breswylwyr a busnesau ledled y ddinas.
"Mae'r cyllid hwn a'r prosiectau y bydd yn helpu i'w cyflawni yn rhan o'r cymorth costau byw sy'n cael ei ddarparu gan y cyngor."
Mae'r wardiau lle mae prosiectau angori gwledig yn gymwys ar gyfer cymorth yn cynnwys Llandeilo Ferwallt, Clydach (gan gynnwys Craig-cefn-parc), Fairwood, Gorseinon and Penyrheol, Gŵyr, Tre-gŵyr, Llangyfelach, Casllwchwr, Pen-clawdd, Penlle'r-gaer, Pennard, Pontarddulais (gan gynnwys yr hen ward, Mawr), Pontlliw a Thircoed.
Gall prosiectau mewn wardiau eraill hefyd gael eu cefnogi fesul achos os ydynt ar gyrion y wardiau hyn neu, mewn amgylchiadau eithriadol, ardaloedd ag amgylcheddau naturiol helaeth mewn mannau eraill yn y sir.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyllidgwledig am ragor o wybodaeth am brosiectau angori gwledig a manylion ynghylch sut i gyflwyno cais.
Gall unrhyw un sy'n chwilio am ragor o fanylion hefyd e-bostio ruralanchorspf@abertawe.gov.uk
Mae ceisiadau grant bellach ar agor tan hanner dydd ar 5 Medi.