Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gyllid ar gyfer hyd yn oed yn fwy o brosiectau gwledig yn Abertawe

Mae diogelu rhywogaethau mewn perygl ac ailgyflwyno cymysgedd o flawd hanesyddol ar gyfer gwneud bara ymysg y cynlluniau diweddaraf yn Abertawe wledig i gael hwb ariannol.

Penllergare Valley Woods

Penllergare Valley Woods

Mae naw cynllun ychwanegol, bellach wedi derbyn cyllid gan Gyngor Abertawe gwerth cyfanswm o £108,000 fel rhan o brosiect angori gwledig cyffredinol a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae'r cynlluniau diweddaraf i elwa o'r cyllid yn cynnwys y canlynol:

  • Prosiect adfer dyfrgwn a llygod y dŵr yng Nghoed Cwm Penllergaer. Bydd y prosiect, a arweinir gan Ymddiriedolaeth Penllergaer, yn cynnwys creu cynefinoedd ffosydd a phyllau dŵr ychwanegol ar gyfer llygod y dŵr, cael gwared ar brysgwydd trwchus ar hyd glan y llyn a gosod rhagor o ffensys er mwyn diogelu'r ardal a'i hamddiffyn rhag aflonyddwch. Bydd gwalau hefyd yn cael eu gosod ar hyd glannau afonydd i ddarparu rhywle i ddyfrgwn orffwys a bridio.
  • Prosiect melino blawd Gower Loaf a arweinir gan Ymddiriedolaeth y Felin Ddŵr sy'n ceisio adfywio melin flawd o'r 12eg ganrif yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr yn fenter hunan-gynaliadwy.

Mae Cyngor Cymuned Pennard hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am gyllid i gefnogi Gŵyl Bwyd a Diod Gŵyra gynhelir am un diwrnod ym mis Medi eleni.

Ymysg y prosiectau eraill a gafodd eu cymeradwyo'n ddiweddar mae prosiectau ynni adnewyddadwy yn Neuadd Llanmorlais, a arweinir gan Ymddiriedolaeth Neuadd Gymunedol Llanmorlais a'r Cylch, ac yn Neuadd Gymunedol Pengelli, a arweinir gan Ymddiriedolaeth Lles y Glowyr Pengelli.

Bydd gardd gymunedol ym Mharc Coed Gwilym yng Nghlydach hefyd yn cael ei datblygu er budd fflora a ffawna, diolch i Gyfeillion Parc Coed Gwilym.

Bydd prosiect ynni adnewyddadwy, a arweinir gan Gyngor Cymuned Llandeilo Ferwallt, yn cynnwys paneli solar, batris storio a rhagor o oleuadau LED.

Close Dewis iaith