Cymunedau gwledig Abertawe i elwa o hwb ariannol gwerth £250,000
Mae mentrau ynni adnewyddadwy a chynllun i ddathlu un o safleoedd claddu seremonïol hynaf Ewrop ymysg y rheini a fydd yn rhoi hwb i gymunedau gwledig Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe bellach wedi dyfarnu cyllid gwerth £205,000 i 17 cynllun fel rhan o'r prosiect angori gwledig sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae'r cynlluniau a fydd yn elwa'n cynnwys:
- Llwybr ymwelwyr ac arddangosfa'r Arglwyddes Goch a arweinir gan Dwristiaeth Bae Abertawe. Yr Arglwyddes Goch yw'r enw a roddwyd i'r darganfyddiad ym 1823 i weddillion hynafol yn Ogof Pen-y-fai (Pafiland) yn Ne Gŵyr. Bydd y prosiect yn helpu preswylwyr Gŵyr ac ymwelwyr â'r ardal i gael gwell dealltwriaeth o'r Arglwyddes Goch, ei harwyddocâd hanesyddol a'i hunigrywiaeth i fro Gŵyr.
- Prosiect ynni adnewyddadwy, a arweinir gan Down to Earth, i ddarparu cyfleusterau storio batris yn adeilad cymunedol Murton a Little Bryn Gwyn yng Ngŵyr. Byddai hyn yn ategu'r grŵp o baneli solar sydd eisoes wedi'u gosod yno i helpu gyda phweru'r adeiladu a darparu cyfleusterau gwefru ar gyfer ceir trydan.
- Gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chyfeirio achrededig yn benodol ar gyfer pobl hŷn a'u gofalwyr yng nghymunedau gwledig Abertawe. Byddai'r gwasanaethau hyn a arweinir gan Age Cymru Gorllewin Morgannwg, wedi'u lleoli mewn cymunedau.
- Prosiect ar gyfer Ymddiriedolaeth Penllergare sy'n canolbwyntio ar gynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy'n i helpu i gynnal a gwarchod Coed Cwm Penllergaer drwy ariannu cydlynydd gwirfoddoli.
- Prosiect bioamrywiaeth 'The Bug's Life' Mawr ar draws dau safle i ddiogelu swydd cydlynydd y prosiect bioamrywiaeth a galluogi i waith recriwtio, ymgysylltu a datblygu sgiliau gwirfoddolwyr barhau. Bydd y prosiect hefyd yn arwain at gyflwyno dysgu yn yr awyr agored a chwarae natur.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae ein cymunedau gwledig yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi a diwylliant Abertawe felly rydym yn falch iawn ein bod wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 17 o brosiectau hyd yn hyn fel rhan o'n prosiect angori gwledig.
"O dwristiaeth ag ynni adnewyddadwy i brosiectau glasu gwledig a chynlluniau i gynorthwyo'r henoed, bydd y prosiectau hyn o fudd i bobl o bob oed mewn cymunedau gwledig drwy'r holl sir."
Aseswyd yr holl brosiectau hyn gan grŵp cynghori gwledig.
Meddai'r Cyng. Andrew Stevens, aelod o'r grŵp a Chynghorydd Hyrwyddo'r Economi Wledig yng Nghyngor Abertawe, "Fel cyngor rydym yn buddsoddi'n drwm yn ein cymunedau gwledig i gynnal gwasanaethau i bobl leol a chynyddu eu proffil fel cyrchfannau i ymwelwyr, ond bydd y prosiectau cymeradwy hyn yn ychwanegu gwerth at bopeth rydym yn ei wneud.
"Bydd llawer mwy o gynlluniau'n elwa o'r cyllid fel rhan o'r prosiect angori gwledig cyffredinol yn y dyfodol hefyd. Bydd hyn yn helpu i hybu ein cymunedau gwledig ymhellach drwy gefnogi eu pobl a'u busnesau wrth helpu i dorri eu hôl traed carbon."
Mae cynlluniau eraill sydd bellach wedi'u cymeradwyo am gyllid yn cynnwys gosod batris a bwerir gan yr haul yn Neuadd Bentref Reynoldston er mwyn cyflwyno system defnyddio ynni fwy cynaliadwy a chost-effeithiol i weithio gyda'r paneli solar presennol.
Caiff deuddeng o baneli solar a storfa fatris gysylltiedig eu gosod yn yr ystafell newid ym Mharc Coed Gwilym yng Nghlydach. Bydd hyn yn darparu pŵer i'r pafiliwn cymunedol yno ac yn cynhyrchu ynni i gynnal bws mini trydan cymunedol arfaethedig.