Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyddiad cau yn nesáu'n gyflym ar gyfer ceisiadau prosiectau gwledig

O farchnadoedd gwledig a llwybrau i ymwelwyr i fioamrywiaeth a mentrau ynni adnewyddadwy, dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer cynlluniau 'r nod o hybu cymunedau gwledig Abertawe.

Ploughed field on Gower

Ploughed field on Gower

Ganol dydd ddydd Llun 6 Tachwedd yw'r dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau sy'n rhan o brosiect angori gwledig Cyngor Abertawe sy'n cael ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Caiff cynlluniau eu hystyried am gyllid os ydynt yn cefnogi themâu sy'n cynnwys yr economi wledig a phrofiad ymwelwyr, yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd, arloesedd ac iechyd a lles.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Drwy'r arian a ddyrannwyd i ni o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rydym am sicrhau bod cynifer o breswylwyr, busnesau a chymunedau â phosib yn elwa ym mhob rhan o Abertawe, yn drefol ac yn wledig.

"Gan mai ychydig ddyddiau'n unig sydd ar ôl ar gyfer ceisiadau prosiectau angori gwledig byddem yn annog unrhyw un â diddordeb i sicrhau eu bod yn cyflwyno'u ffurflenni mewn pryd i osgoi colli'r cyfle i gael cyllid ar gyfer cynlluniau a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau gwledig nawr ac yn y blynyddoedd i ddod."

Gall prosiectau cyfalaf dderbyn hyd at £25,000. Gallai'r rhain gynnwys buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau cymunedol neu fannau gwefru ceir a beiciau yn y gymuned.

Gallai prosiectau refeniw, sy'n gymwys ar gyfer hyd at £15,000, gynnwys:

  • Cynlluniau gwirfoddoli i ymgysylltu â grwpiau mewn cymunedau gwledig, a allai gynnwys cludiant cymunedol, cynlluniau amgylcheddol neu gyfeillio, a gweithredu yn y gymuned.
  • Astudiaethau dichonoldeb gyda chynlluniau sydd wedi'u costio'n llawn i helpu gyda datgloi cymorth ariannol yn y dyfodol. Gallai'r rhain fod ar gyfer cynllun cludiant cymunedol neu gyfleusterau cymunedol fel amgueddfa neu hwb.
  • Marchnadoedd gwledig lleol a llwybrau ymwelwyr i wella nifer yr ymwelwyr ar strydoedd mawr gwledig. Gallai'r rhain gynnwys digwyddiadau dros dro, ymgyrchoedd marchnata a datblygu apiau.
  • Cynlluniau bioamrywiaeth fel prosiectau gwyrddi gwledig ar gyfer gwella bioamrywiaeth, tyfu cymunedol neu ddefnyddio mannau nas defnyddir ddigon unwaith eto drwy fioamrywiaeth.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Cynghorydd Hyrwyddo dros yr Economi Wledig yng Nghyngor Abertawe, "Bydd argaeledd y cyllid hwn yn helpu i gefnogi cymunedau gwledig Abertawe ymhellach, cymunedau sydd mor bwysig i ddiwylliant, hunaniaeth ac economi Abertawe.

"Gan adeiladu ar y gwaith gwych sy'n cael ei wneud  eisoes gan breswylwyr a busnesau mewn rhannau gwledig o Abertawe, edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi themâu allweddol gan gynnwys yr economi wledig, a phrofiad ymwelwyr, yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd, arloesedd ac iechyd a lles."

Mae'r wardiau lle mae prosiectau angori gwledig yn gymwys ar gyfer cymorth yn cynnwys Llandeilo Ferwallt, Clydach (gan gynnwys Craig-cefn-parc), Fairwood, Gorseinon a Phenyrheol, Gŵyr, Tre-gŵyr, Llangyfelach, Casllwchwr, Pen-clawdd, Penlle'r-gaer, Pennard, Pontarddulais (gan gynnwys hen ward Mawr), Pontlliw a Thircoed.

Gall prosiectau mewn wardiau eraill hefyd gael eu cefnogi fesul achos os ydynt ar gyrion y wardiau hyn neu, mewn amgylchiadau eithriadol, ardaloedd ag amgylcheddau naturiol helaeth mewn mannau eraill yn y sir.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyllidgwledig i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau angori gwledig a manylion ynghylch sut i gyflwyno cais.

Gall unrhyw un sy'n chwilio am ragor o fanylion hefyd e-bostio ruralanchorspf@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith