Dros £100,000 ar gael i roi hwb i gynlluniau gwledig
Mae rownd newydd o gyllid wedi agor ar gyfer cynlluniau sy'n ceisio rhoi hwb i gymunedau gwledig Abertawe.
5pm ddydd Gwener 19 Ionawr yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau sy'n ffurfio rhan o brosiect angori gwledig y cyngor a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae dros £100,000 ar gael, a chroesawir prosiectau sy'n ceisio rhoi cymorth i fioamrywiaeth yn benodol.
Caiff yr holl gynlluniau eu hystyried yn gyfartal os ydynt yn cefnogi themâu megis yr economi wledig a phrofiad ymwelwyr, yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd, arloesedd ac iechyd a lles.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am i breswylwyr, busnesau a chymunedau elwa trwy ein dyraniad o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin."
Gall prosiectau cyfalaf dderbyn hyd at £25,000. Gallai'r rhain gynnwys buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau cymunedol neu fannau gwefru ceir a beiciau yn y gymuned.
Gallai prosiectau refeniw, sy'n gymwys am hyd at £15,0000, gynnwys cynlluniau megis cynlluniau gwirfoddoli i gynnwys grwpiau mewn cymunedau gwledig ac astudiaethau dichonoldeb i helpu i ddatgloi cymorth ariannol yn y dyfodol.
Mae'r prosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod rowndiau blaenorol yn cynnwys menter i helpu gyda gwaith cadwraeth Coed Cwm Penllergaer, gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer pobl hŷn a'u gofalwyr a chynllun i annog bioamrywiaeth ar draws ddau safle.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae cymunedau gwledig yn bwysig iawn i ddiwylliant, hunaniaeth ac economi Abertawe; bydd yr arian hwn yn helpu i'w cefnogi."
Mae wardiau Abertawe lle mae prosiectau angori gwledig yn gymwys ar gyfer cymorth yn cynnwys Llandeilo Ferwallt, Clydach (gan gynnwys Craig-cefn-parc), Fairwood, Gorseinon a Phenyrheol, Gŵyr, Tre-gŵyr, Llangyfelach, Casllwchwr, Pen-clawdd, Penlle'r-gaer, Pennard, Pontarddulais (gan gynnwys hen ward Mawr), Pontlliw a Thircoed.
Gallwn hefyd gefnogi prosiectau mewn wardiau eraill os ydynt ar ymylon y wardiau hyn neu os oes ganddynt amgylcheddau naturiol helaeth.
Mae swyddogion y cyngor yn awyddus i gefnogi'r holl ymgeiswyr. Dylid cyflwyno ceisiadau drafft - a gwneud ymholiadau cychwynnol - cyn hanner dydd, 10 Ionawr. Rhagor o wybodaeth: Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyllidgwledig neu e-bostiwch ruralanchorspf@abertawe.gov.uk