Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Cyfle i ddysgu am fuddsoddiad mawr sy'n helpu i drawsnewid Abertawe

Bydd gan fusnesau gyfle cyn bo hir i ddysgu mwy am fuddsoddiad mawr y Fargen Ddinesig sy'n helpu i drawsnewid Abertawe.

71/72 Kingsway CGI

71/72 Kingsway CGI

Cynhelir digwyddiad am ddim sef 'Cwrdd â'r Fargen Ddinesig' yn Arena Abertawe ddydd Mercher 20 Mawrth a fydd yn rhoi diweddariadau ar gynlluniau adfywio allweddol fel 71/72 Ffordd y Brenin a'r Matrics Arloesi sy'n dod yn ei flaen yng nghampws glannau SAI Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae'r digwyddiad a fydd yn para o 9am i 12.30pm yn cael ei drefnu gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.

Bydd gwybodaeth am grantiau busnes y cyngor a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU hefyd ar gael.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys y Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe; Yr Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; a Jonathan Burnes, cyfarwyddwr rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd cyfleoedd hefyd i rwydweithio ac ymweld â stondinau'r prosiect.

Ariennir datblygiad Arena Abertawe yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, ynghyd â'r datblygiad swyddfeydd newydd sy'n cael ei adeiladu ar safle hen glwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin.

Bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn y misoedd sy'n dod, yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau fel y rhai technegol a digidol gan roi hwb o £32.6m y flwyddyn hefyd i economi Abertawe.

Mae'r datblygiad 104,000 o droedfeddi sgwâr yn cynnwys mannau cyhoeddus gyda rhannau penodol o'r adeilad yn cael eu cynnig i'r farchnad agored i'w gosod. Mae'r rhain yn cynnwys swyddfeydd gradd A, yn ogystal â mannau manwerthu, bwyd a diod, neuadd ddigwyddiadau, lleoedd gweithio hyblyg a wasanaethir.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Mae'r arena yn golygu ein bod eisoes wedi cael blas o fuddsoddiad y Fargen Ddinesig yn Abertawe, ond mae llawer mwy i ddod.

"Bydd y cynllun swyddfeydd tra chyfoes ar Ffordd y Brenin yn cael ei gwblhau yn yr ychydig fisoedd nesaf, ac ar ben hynny mae gwaith adeiladu wedi hen ddechrau ar ddatblygiad Matrics Arloesi Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd.

"Bydd y prosiectau hyn yn cyfuno i helpu i godi statws Abertawe ymhellach fel dinas flaenllaw ar gyfer digwyddiadau, busnes ac arloesedd, wrth ddenu buddsoddiad pellach gan y sector preifat yn ein dinas.

"Bydd y digwyddiad yn yr arena yn gyfle gwych i fusnesau lleol gael gwybod am yr hyn sy'n digwydd yn y ddinas a sut y gallant elwa o bosib."

Innovation Matrix UWTSD

Bydd y Matrics Arloesi yn darparu 2,200 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr lle gall busnesau ifanc weithio'n agos gydag academyddion arbenigol ac elwa o adnoddau a chyfarpar PCYDDS.

Bydd y datblygiad newydd, y disgwylir i fusnesau digidol a'r rhai sy'n ymwneud ag iechyd ei lenwi, yn cael ei leoli ar bwys adeiladau presennol IQ ac Y Fforwm y brifysgol.

Ewch yma i gadw lle yn nigwyddiad 'Cwrdd â'r Fargen Ddinesig'

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bortffolio o brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat ar draws Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Mawrth 2024