Toglo gwelededd dewislen symudol

​​​​​​​Mae lleoliadau allweddol yn parhau i adfer o'r pandemig

Mae ymwelwyr yn dal i heidio i brif leoliadau hamdden a chyrchfannau a gefnogir gan y Cyngor wrth i staff lleoliadau barhau i ail hybu ar ôl y pandemig.

Cefn Hengoed Leisure Centre

Cefn Hengoed Leisure Centre

Mae niferoedd iach o gwsmeriaid yn ymweld â chanolfannau Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (PCCA), Plantasia ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Roedd ffigurau ymwelwyr yn LC canol y ddinas a chyfleusterau hamdden eraill Freedom Leisure i fyny bron 30% yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, i fwy nag 1.8m ar y flwyddyn flaenorol. Cododd incwm bron 36% i oddeutu £8m.

Cynyddodd incwm PCCA fwy na £300,000, i oddeutu £1.3m.

Cododd nifer yr ymwelwyr â Plantasia, a gynhelir gan  Parkwood Leisure, o 98,000 yn 2022 i fwy na 117,000, a chynyddodd eu refeniw fwy na £200,000 i bron £950,000.

Yn amgueddfa'r glannau, y mae mynediad am ddim iddi, roedd ffigurau ymwelwyr a ymwelodd yn bersonol ac ar-lein i fyny rhyw 10% i bron 277,000.

Ac er bod yr holl leoliadau'n wynebu heriau, yn enwedig gyda biliau ynni uchel a'r angen i barhau i gynyddu niferoedd ymwelwyr, dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet, fod eu llwyddiant parhaus yn hanfodol.

Heddiw, ystyriodd y cabinet Adroddiad Blynyddol ei Bartneriaethau Hamdden, gan edrych ar nifer yr ymwelwyr yn 2022-23 a pherfformiad ariannol sefydliadau yn y ddinas y mae'r cyngor yn eu cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Meddai'r Cynghorydd Francis-Davies, "Rydym yn parhau i fod yn gefn i'n partneriaid yn y gwasanaethau hamdden yn ystod yr argyfwng costau byw gan eu bod yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd ein dinas a'n cymunedau lleol."

Llun: Canolfan Hamdden Cefn Hengoed.

Close Dewis iaith