Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd: holi'r cyhoedd ynghylch eu barn a'u syniadau
Mae arolwg ar yr ymgyrch i wneud Abertawe yn sero net yn gofyn y canlynol i breswylwyr: Pa gamau gweithredu y dylai eich cyngor rhoi'r flaenoriaeth uchaf iddynt?
Bydd y canlyniadau'n helpu'r cyngor i wneud Abertawe'n ddinas carbon sero net erbyn 2050.
Meddai cyd-ddirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis, "Mae ein harolwg yn parhau'r sgwrs ag eraill wrth i ni barhau i ddatblygu ymagwedd strategol ar draws y ddinas at gyflawni Abertawe sero net.
Mae'r arolwg ar gyfer pob preswylydd, o bob oed, a sefydliadau o bob math. Bydd y canlyniadau'n ein helpu i flaenoriaethau ein camau gweithredu wrth i ni helpu'r ddinas i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn sy'n diffinio'r oes.
"Byddwn yn annog pobl a sefydliadau o gwmpas Abertawe gyfan i lenwi'r arolwg; bydd yr amser byr y byddant yn ei dreulio'n gwneud hyn yn ein helpu ni i ganolbwyntio'n hymdrechion yn eu dyfodol."
Mae'r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ar newid yn yr hinsawdd ac yn ysbrydoli eraill i ymuno â hwy i wneud addewid fel rhan o weithredu ar draws y ddinas.
Mae'r camau cadarnhaol sydd eisoes yn cael eu cymryd gan y cyngor yn cynnwys cyflwyno isadeiledd gwyrdd mewn datblygiadau newydd, yn enwedig atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n dal carbon.
Ymysg mesurau eraill, mae'n uwchraddio'i gerbydlu o gerbydau trydan, yn gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan i fodurwyr lleol ac yn canolbwyntio rhagor o gronfeydd pensiwn ar fuddsoddiad cynaliadwy.
Dyddiad cau'r arolwg: Rhagfyr 20.
Yr arolwg ar-lein: www.bit.ly/CAccs23