Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth wedi'i ail-lansio yn ceisio helpu pobl yn ystod yr argyfwng costau byw

Mae gwasanaeth poblogaidd wedi dychwelyd i ganol dinas Abertawe i helpu aelwydydd lleol yn ystod yr argyfwng costau byw.

Energy Awareness Hub

Energy Awareness Hub

Mae'r hwb ymwybyddiaeth ynni 'Switched On' wedi ailagor ar y Stryd Fawr i gynnig cyngor ac arweiniad am ddim ar gadw biliau tanwydd mor isel â phosib.

Agorodd y gwasanaeth, sy'n cael ei ariannu gan y cyngor a'i weithredu gan Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe, am y tro cyntaf yn Nelson Street y llynedd.

Mae'n cynnig awgrymiadau ymarferol drwy sgyrsiau wyneb yn wyneb, sesiynau galw heibio, sgyrsiau effeithlonrwydd ynni a chyngor gyda dyled tanwydd.

Mae awgrymiadau ynghylch sut i arbed ynni, fel creu rhimynnau drafftiau, ac mae gorsaf rodd lle gall pobl ddigartref a phobl eraill mewn angen gael gafael ar gotiau a blancedi am ddim a roddwyd gan aelodau'r cyhoedd.

Meddai cyd-ddirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis: "Mae ein cefnogaeth i bobl leol yn arbennig o bwysig, yn enwedig wrth i'r amserau anodd hyn barhau."

Mae Switched On ar agor yng Ngweithdai Cymunedol Abertawe, 208 y Stryd Fawr, bob dydd Iau a dydd Gwener o 10am tan 4pm.

Mae'n cynnig trafodaethau wyneb yn wyneb i'r rheini sy'n poeni am eu biliau ynni, gall helpu aelwydydd i arbed arian a bydd yn helpu'r ddinas i ddod yn sero-net o ran carbon erbyn 2050.

Meddai Rhian Corcoran, rheolwr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, "Gall pobl sy'n pryderu am eu costau tanwydd eu hunain neu eu perthnasau ymweld â'n hwb yng nghanol y ddinas neu chwilio am gyngor ar ein tudalennau gwe."

Mae rhwydwaith o arbenigwyr yn cefnogi arweiniad y gwasanaeth ac mae ar gael i helpu pwy bynnag sydd ei angen.

Llun Swyddog ymwybyddiaeth ynni, Nia Melding yn Hwb Switched On Canol Dinas Abertawe.  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Ionawr 2024