Cymunedau a busnesau'n elwa o hwb ariannol gwerth miliynau o bunnoedd
Mae cymunedau, busnesau a darparwyr addysg yn Abertawe wedi elwa o hwb ariannol sy'n werth yn agos i £22m dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cannoedd o brosiectau ar draws y ddinas a'r sir sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae prosiectau angori sy'n rhan o'r rhaglen gyllido gyffredinol yn cynnwys prosiect angori gwledig, cymorth busnes, diwylliant a thwristiaeth, cefnogi cymunedau a phrosiect trawsnewid lleoedd ar draws y sir.
Mae prosiectau sydd wedi elwa o gyllid angori gwledig yn cynnwys prosiect i adfer llygod y dŵr yng Nghoed Cwm Penllergare, yn ogystal â phrosiect 'The Surf to Success' a gynhelir gan Surf Therapy yn Abertawe ac yng Ngŵyr.
Fel rhan o'r prosiect angori cymorth i fusnesau, mae'r busnesau sydd wedi elwa'n cynnwys Imersifi - busnes technoleg ymgolli a realiti rhithwir a dderbyniodd grant twf. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys Hostel Cwtsh yng nghanol y ddinas a dderbyniodd grant lleihau carbon a 'Bowla - a Bowl with a Roll' a dderbyniodd grant i ddatblygu gwefan .
Cafwyd galwad agored hefyd am gynigion ariannu yr oedd dros 20 o brosiectau wedi gwneud cais llwyddiannus amdanynt.
Mae'r rhain yn cynnwys prosiect cynnyrch naturiol BioHUB a gynhelir gan Brifysgol Abertawe, prosiect 'Heart of the Community' a gynhelir gan blwyf Casllwchwr yng Ngorseinon a gwaith ailgyflunio sylweddol yng Nghapel y Tabernacl Treforys.
Mae'r rhaglen 'FIT Jacks' a gynhelir gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe hefyd wedi cael ei hehangu, ac mae cyllid wedi cael ei ddyfarnu i oriel a stiwdios Elysium i helpu gyda'u cynlluniau i adfer hen adeilad JT Morgan yng nghanol y ddinas er mwyn ei ddefnyddio eto.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Fel rhan o'n dyraniad o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y DU, roeddem yn benderfynol o sicrhau cynifer o fuddion â phosib i bobl o bob oed yn Abertawe ac yn ein holl gymunedau.
"Dyna pam y cyflwynom themâu ariannu allweddol fel cymorth busnes, sy'n cefnogi ein cymunedau a phrosiectau gwledig.
"Mae cyllid sy'n werth bron £22m wedi'i ddyrannu bellach i gannoedd o brosiectau haeddiannol sydd ar waith drwy Abertawe i gyd, gan helpu i wella bywydau miloedd lawer o bobl leol.
"Bydd mwy fyth o gyllid yn cael ei ddosbarthu'n fuan i brosiectau lleol eraill hefyd sy'n rhan o'n hymrwymiad i roi hwb i holl gymunedau Abertawe a chefnogi cynifer o fusnesau lleol â phosib.
Mae prosiectau eraill sy'n elwa bellach o'r cyllid yn cynnwys 'Skills for Swansea', lle mae Coleg Gŵyr Abertawe yn arwain partneriaeth o ddarparwyr hyfforddiant arbenigol lleol i ddarparu cefnogaeth ailhyfforddi a gwella sgiliau i oedolion 19 oed ac yn hŷn.
Dan thema 'Lluosi' y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi llwyddo i wneud cais am gyllid i gynnal prosiect o'r enw 'Multiply Swansea'. Mae'r prosiect, a ddarperir mewn partneriaeth â darparwyr sgiliau lleol, yn cynnig cymorth sgiliau rhifedd i oedolion 19 oed ac yn hŷn nad oes ganddynt gymhwyster lefel 2 neu uwch ym Mathemateg.
Fel rhan o'r prosiect angori diwylliant a thwristiaeth, dyfarnwyd cyllid i fusnesau gan gynnwys Parc Carafanau 'Ivy Cottage' yn Nicholaston a Chwrt y Wennol ger Clydach.
Diolch i'r rhaglen ariannu gyffredinol, mae gwaith yn digwydd i roi bywyd newydd i adeiladu hanesyddol hefyd, gan gynnwys Castell Ystumllwynarth, yr Eglwys Undodaidd ar y Stryd Fawr ac Eglwys y Bedyddwyr York Place. Bydd cyllid grant hefyd yn cael ei glustnodi ar gyfer gwaith dichonoldeb dylunio ac adfer yr injan fach (a ddefnyddir i droi'r brif injan i safle ffafriol i'w chychwyn) yn Nhŷ Injan Musgrave yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Mae sgiliau syrcas dan arweiniad Circus Eruption - elusen ieuenctid integredig am ddim - wedi derbyn hwb hefyd, diolch i waith gwella yn Eglwys Sant Luc yng Nghwmbwrla.