Cynlluniau ariannu ar waith i hybu busnesau Abertawe
Mae nifer o grantiau bellach ar gael i roi hwb i fusnesau o bob math yn Abertawe.
Wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno nifer o gynlluniau dros yr wythnosau diwethaf.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Grantiau cyn dechrau i gefnogi busnesau newydd. Gyda mwyafswm grant o £10,000, gellir defnyddio'r cyllid hwn i dalu costau gwariant gan gynnwys cyfarpar, hyfforddiant, achrediad a marchnata.
- Grantiau datblygu gwefan o hyd at £1,500 i helpu i dalu costau creu gwefan busnes am y tro cyntaf neu wneud gwelliannau i wefan fusnes bresennol.
- Grantiau twf busnes o hyd at £50,000 i helpu i ariannu'r gwaith o gyflwyno cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gall y grant hwn helpu i dalu costau gwariant gan gynnwys cyfarpar, systemau TG a pheiriannau.
- Grantiau lleihau carbon o hyd at £10,000 i helpu busnesau i weithio tuag at fod yn sero-net o ran carbon.
- Grantiau datblygu cyflenwyr o hyd at £1,000 i helpu busnesau i ariannu'r gost o gael mynediad at hyfforddiant ar gyfer yr achrediad sydd ei angen i wneud cais am gontractau'r sector cyhoeddus neu ar raddfa fwy.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae'r cynlluniau grant hyn bellach ar agor i geisiadau gan fusnesau Abertawe, felly byddwn yn annog unrhyw fusnes sydd â diddordeb i fynd i wefan y cyngor am ragor o wybodaeth.
"Mae'r grantiau hyn yn bwriadu cefnogi busnesau'r ddinas o bob oed a maint i naill ai sefydlu, tyfu, creu mwy o incwm, cael mynediad at ragor o gyfleoedd gwaith neu helpu i leihau eu holion traed carbon.
"Mae cymorth o'r math hwn yn fanteisiol iawn i bobl â chanddynt syniadau busnes cynnar neu fusnesau sefydledig sy'n rhoi cynifer o gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol."
Mae rhagor o wybodaeth am yr holl grantiau hyn a chyfleodd ariannu eraill ar gael yn www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau
Mae'r cyngor hefyd yn cynnal clwb menter i fusnesau newydd a digwyddiadau awr bŵer i fusnesau er mwyn darparu arweiniad lle bo agen, ar faterion o farchnata a chyfreithiol i recriwtio, adnoddau dynol a chyfrifeg.
Mae manylion am ddigwyddiadau sydd ar ddod i fusnesau Abertawe ar gael yma
Lanlwythwyd holl ddigwyddiadau blaenorol y clwb menter i fusnesau newydd a'r awr bŵer hefyd i dudalen YouTube Busnes Abertawe a gall busnesau eu cyrchu ar unrhyw adeg.