Toglo gwelededd dewislen symudol

Bron 30 o brosiectau yn Abertawe i elwa o hwb ariannol gwerth miliynau o bunnoedd

Bydd sgiliau'n cael eu gwella, bydd hanes yn fyw unwaith eto a bydd mwy o wyrddni'n cael ei gyflwyno yn Abertawe, diolch i hwb ariannol gwerth £12.95 miliwn.

View of Swansea

View of Swansea

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cymeradwyo dwsinau o brosiectau ar draws y ddinas sydd wedi gwneud cais am gymorth fel rhan o gyfle agored Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r prosiectau sydd wedi'u cymeradwyo'n cynnwys:

  • Sgiliau ar gyfer Abertawe, lle bydd Coleg Gŵyr Abertawe'n arwain partneriaeth o ddarparwyr hyfforddiant lleol arbenigol i ddarparu cefnogaeth ailhyfforddi ac uwchsgilio i oedolion 19 oed ac yn hŷn, yn unol ag anghenion sgiliau'r economi leol.
  • Swansea Green Futures, lle bydd Pobl Group yn darparu rhaglen isadeiledd gwyrdd a fydd yn gwella cyfleoedd ar gyfer lles, sgiliau gwyrdd, bioamrywiaeth a darpariaeth bwyd leol wrth leihau ôl troed carbon y ddinas, dŵr wyneb a pherygl llifogydd.
  • Prosiect a arweinir gan Oriel Elysium a fydd yn ailwampio'r hen adeilad JT Morgan yng nghanol y ddinas, a'i drawsnewid yn ganolfan gelfyddydau amlbwrpas. Bydd dros 60 o fannau creadigol yn cael eu cynnwys er mwyn diwallu anghenion y diwydiant creadigol lleol fel rhan o gynllun a fydd hefyd yn cynnwys oriel, caffi, canolfan addysg, ystafelloedd digwyddiadau a tho biosolar.
  • Prosiect BioHwb Cynnyrch Naturiol a arweinir gan Brifysgol Abertawe sy'n ceisio sefydlu Abertawe fel hwb ar gyfer ymchwil cynnyrch naturiol a datblygiad cynnyrch.
  • Dan arweiniad yr elusen Tabernacle - Morriston Congregation, bydd gwaith ad-drefnu yn y capel yn ei newid yn hwb cymunedol sydd ar gael i bawb, a fyddai'n galluogi i bedwar digwyddiad ar wahân gael eu cynnal ar yr un pryd. Byddai hyn yn helpu i gynyddu'r potensial i gynhyrchu refeniw wrth ddiogelu'r adeilad rhestredig Gradd 1 ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dan thema 'Lluosi' y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llwyddo i wneud cais am gyllid i gynnal prosiect o'r enw Multiply Swansea. Bydd y prosiect, a fydd yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â darparwyr sgiliau lleol, yn cynnig cymorth sgiliau rhifedd i oedolion 19 oed ac yn hŷn nad oes ganddynt gymhwyster lefel 2 neu uwch ym Mathemateg.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gwnaed llawer o waith i nodi themâu allweddol cyfle agored y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Abertawe i sicrhau cynifer o fuddion â phosib i bobl leol a chymunedau lleol.

"Mae bron 30 o brosiectau bellach wedi'u cymeradwyo a fydd yn cyrraedd y nodau hyn drwy wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl, wrth roi hwb i'n cymunedau drwy gynnig cyfleusterau newydd a mwy o gyfleoedd i breswylwyr lleol.

"Mae darparwyr addysg uwch ac addysg bellach, y sector preifat, grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector ymysg y rheini a fydd yn derbyn y cyllid i ddarparu'r prosiectau hyn wrth i ni geisio fanteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.

"Bydd y cynlluniau sy'n rhan o'r cyfle agored yn adeiladu ar y prosiectau angori sydd hefyd yn cael eu hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n cynnwys cymorth busnes a rhoi hwb i ardaloedd gwledig gyda chyllid ar gyfer datblygu cymunedau gwledig, gweithgareddau sy'n seiliedig ar newid yn yr hinsawdd a chefnogaeth ar gyfer busnesau gwledig."

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn un o gronfeydd Llywodraeth y DU a fydd yn disodli cronfeydd Ewropeaidd nad ydynt ar gael mwyach yn dilyn Brexit. Mae hefyd yn rhan o agenda codi'r gwastad Llywodraeth y DU.

Mae prosiectau eraill yn Abertawe a fydd yn cael eu hariannu fel rhan o'r cyfle agored am geisiadau, sydd bellach wedi cau, yn cynnwys cynllun loc Clydach a arweinir gan Gymdeithas Camlas Tawe. Bydd loc y gamlas yn cael ei adfer a bydd basn angori newydd yn galluogi ar gyfer cwch teithiau cymunedol a chanolfan hyfforddiant canŵio.

Mae prosiect Hwb Goleudy yn yr Ardal Forol, a arweinir gan Goleudy Housing and Support Ltd, hefyd yn cael ei ariannu. Bydd yr hwb, sydd ar agor i bawb, yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ddiwallu anghenion pobl leol. Bydd yr hwb yn cynnwys caffi cymunedol, cegin hyfforddi, mentrau iechyd a lles, celf a gweithle a rennir.