Eich cyfle i enwebu'ch pencampwyr chwaraeon ar gyfer gwobr
Mae eich cyngor yn gwahodd enwebiadau ar gyfer y rheini sy'n haeddu cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Chwaraeon blynyddol Abertawe.
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 28 Mawrth o 7pm yn Neuadd Brangwyn. Gwybodaeth lawn
Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae pencampwyr chwaraeon Abertawe yn amrywio o wirfoddolwyr a hyfforddwyr i dimau ac unigolion.
"Mae angen ymroddiad, penderfyniad a llawer o waith caled i gynnal safonau uchel ac fel dinas chwaraeon, hoffem anrhydeddu sgiliau ac ymdrech o'r fath."
Bydd y gwobrau - mewn cydweithrediad â Freedom Leisure - yn dathlu llwyddiannau chwaraeon yn ystod blwyddyn galendr 2023.
Byddant yn cydnabod unigolion, timau a chlybiau ar draws 13 categori.
Mae tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo'n mynd ar werth ym mis Ionawr. Mae'r cyfle i enwebu ar agor nawr ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr.
Mae noddwyr y gwobrau'n cynnwys Arvato CRM Solutions, John Pye Auctions, Chwaraeon Cymru, Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, Yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe, Pure Football Swansea, Coleg Gŵyr Abertawe, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST), Stowe Family Law a McDonald's.
Llun: Y Triathletwr, Non Stanford yn derbyn gwobr cyflawniad eithriadol yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe 2023.