Dyma nhw! Enillwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe
Mae amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau chwaraeon cymunedol sy'n perfformio'n dda wedi ennill gwobrau yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe 2022.
Mae Cyngor Abertawe y tu ôl i'r cynllun a ddychwelodd gyda digwyddiad gwobrau a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn neithiwr (Sylwer: nos Iau, 30 Mawrth).
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae ein gwobrau'n dathlu ymroddiad unigolion a thimau talentog ac ymroddedig. Llongyfarchiadau i'r enillwyr a'r rheini a gyrhaeddodd y rhestr fer."
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn lleoliad crand Neuadd Brangwyn o flaen cynulleidfa o dros 400 gan gynnwys pobl bwysig ym myd chwaraeon.
Cynhaliwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.
Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2022
- Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn a noddir gan Arvato CRM Solutions - Ben Fox
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn a noddir gan John Pye Auctions - Kim Davies
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn a noddir gan Chwaraeon Cymru - Alison Brown
- Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn a noddir gan Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe - Dr Shaun Davies
- Gwobr Cyflawniad Eithriadol -Non Stanford
- Chwaraewr Iau'r Flwyddyn a noddir gan Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe - Morgan Harvey
- Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn a noddir gan Edenstone Group - Mabli Collyer
- Tîm Ysgol y Flwyddyn a noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe - Tîm Tennis Merched dan 13 oed Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt
- Tîm neu Glwb Iau'r Flwyddyn a noddir gan Peter Lynn and Partners - Adran Ieuenctid Clwb Hoci Abertawe
- Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn a noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - Tîm Para-bowlio Cymru Gemau'r Gymanwlad
- Annog Abertawe Actif a noddir gan Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru - Paul Davies
- Cyfraniad Gydol Oes at Chwaraeon - Robert Samuel
- Chwaraewr Iau'r Flwyddyn ag Anabledd a noddir gan Evolve Physiotherapy - Callum Williams
- Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd a noddir gan First Cymru - Ben Pritchard
- Chwaraewr y Flwyddyn a noddir gan McDonald's - Non Stanford
Llun: Non Stanford - un o enillwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2022. Llun: Cyngor Abertaw