Disgyblion ysgol yn elwa o ddysgu am sgiliau yn Theatr y Palace.
Mae gweithwyr ar brosiect y cyngor i roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol Theatr y Palace yn Abertawe wedi croesawu disgyblion ysgol i'r safle.
Roedd yr ymweliad wedi caniatáu i staff y prif gontractwr R&M Williams drosglwyddo ystod o awgrymiadau gyrfa i fyfyrwyr TGAU 12 ac 13 oed.
Cawsant gyfle i brofi ystod o rolau sy'n bwysig i waith adeiladu treftadaeth.
Cafodd y myfyrwyr, yr oedd pob un ohonynt o Ysgol Dylan Thomas, gyfle i fynd yno gyda help yr elusen addysgol nid er elw, Cynllun Addysg Beirianneg Cymru.
Mae hon yn ysbrydoli ac yn cymell pobl ifanc o Gymru i ddewis gyrfaoedd sy'n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Disgwylir i ymweliadau pellach â'r Palace dan y faner Girls into STEM gynnwys rhagor o ddisgyblion TGAU Abertawe a grŵp o fyfyrwyr adeiladu a pheirianneg Prifysgol Abertawe.
Mae'r prosiect sy'n rhoi bywyd newydd i adeilad Theatr y Palace sy'n 135 o flynyddoedd oed, yn cael ei arwain gan Gyngor Abertawe.
Unwaith y bydd wedi'i orffen, bydd yn gartref i amrywiaeth o fusnesau a fydd yn defnyddio amgylchedd gweithio arddull newydd y lleoliad.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych bod prosiect y Palace yn ysbrydoli merched a menywod ifanc lleol i ddilyn gyrfaoedd STEM.
"Mae'r tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter yn parhau i weithio gyda chontractwyr ar y prosiect hwn ac eraill i helpu i gyflwyno mentrau addysgol.
Croesawyd disgyblion Ysgol Dylan Thomas gan reolwr gwerth cymdeithasol R&M Williams, Freya Church, a ddywedodd, "Rydym am helpu i normaleiddio'r disgwyliad o gael menywod mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg".
Rhagor: www.facebook.com/PalaceTheatreRedevelopment
Llun: Disgyblion Ysgol Dylan Thomas ar ymweliad addysgol â phrosiect Theatr y Palace. Llun: R&M Williams