Cynllun i gynyddu cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Bydd mwy o blant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at gymorth dysgu ychwanegol yn agosach at eu cartrefi dan gynigion newydd Cyngor Abertawe.
Bydd cyfleusterau addysgu arbenigol newydd yn cael eu creu ar draws ysgolion.
Yn hollbwysig, dan y cynigion, ni chaiff unrhyw ddisgyblion eu symud o'u hysgol bresennol ac ni therfir ar eu haddysg wrth i'r newidiadau gael eu cyflwyno.
Mae'r mwyafrif o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn Abertawe'n cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd, ond mae oddeutu 600 o ddisgyblion ag anghenion mwy difrifol a chymhleth y mae angen lleoliad arbenigol arnynt at ddibenion dysgu a lles.
Mae 38 o gyfleusterau addysgu arbenigol ar hyn o bryd mewn 31 o ysgolion.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y disgyblion y mae angen y cymorth hwn arnynt wedi cynyddu a disgwylir i'r nifer barhau i gynyddu. Er mwyn ateb y galw cynyddol hwn, mae'r cyngor yn bwriadu ychwanegu 61 o leoedd eraill.
Bydd y cynigion yn cynnwys:
· Creu pum cyfleuster addysgu arbenigol newydd er mwyn sicrhau y caiff y ddarpariaeth ei dosbarthu'n fwy cyfartal o safbwynt daearyddol
· Ehangu pedwar cyfleuster addysgu arbenigol presennol
· Bydd y mwyafrif o'r cyfleusterau addysgu arbenigol yn parhau a chaiff llawer ohonynt eu hailddynodi fel y gallant ddiwallu anghenion mwy o ddisgyblion.
Bydd y newidiadau'n golygu y bydd y cymorth yn adlewyrchu anghenion disgyblion yn well ac, os oes modd, fe'i darperir yn agosach at gartrefi disgyblion.
Dan y cynnig, er y byddai pum cyfleuster addysgu arbenigol yn cau, mae dau ohonynt mewn ysgolion lle ceir cyfleusterau addysgu arbenigol eraill, felly byddant yn parhau i gynnig darpariaeth. Caiff gwasanaethau amgen newydd eu datblygu yn y ddau leoliad arall