Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Staff y llyfrgell yn helpu i ddod â straeon Abertawe'n fyw mewn ffordd hollol newydd

Mae staff Llyfrgell Abertawe'n flaenllaw wrth gyflwyno profiad adrodd straeon unigryw newydd yn y ddinas y mis hwn.

Swansea Librarians

Swansea Librarians

Mae timau o wasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Abertawe yn chwarae eu rolau unigryw eu hunain fel rhan o'r profiad 'Storytrails' y gellir ymgolli ynddo.

Mae'n rhan o UNBOXED: Creativity in the UK, dathliad arloesol o greadigrwydd a gynhelir ledled y DU yn 2022 dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol dros Adrodd Straeon y Gellir Ymgolli Ynddynt: StoryFutures Academy.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae'n wych bod staff y llyfrgelloedd yn defnyddio'u doniau, eu sgiliau a'u haddysg i helpu i ddod â StoryTrails yn fyw yn Abertawe. Bydd yn ddeuddydd ardderchog llawn hwyl i bobl leol ac rwy'n gwybod y bydd teuluoedd o'r ardal yn mwynhau'r profiadau newydd a ddaw yn ei sgil."

Bydd StoryTrails yn ymweld â Llyfrgell Ganolog Abertawe ar 10 ac 11 Awst rhwng 11am a 7pm.

Mae Owen Richards, adroddwr straeon digidol yn creu map rhyngweithiol o Abertawe y gellir ymgolli ynddo. Mae'r gwneuthurwr ffilmiau, Jay Bedwani, yn creu llwybr straeon realiti estynedig o amgylch y ddinas.

Y tu fas i'r llyfrgell bydd ymwelwyr yn mynd i mewn i borth straeon rhithwir, gyda pherfformwyr lleol ac ap realiti estynedig symudol am ddim ar gael i'w harwain. Bydd angen dangos cerdyn adnabod â llun er mwyn benthyca cyfarpar ar gyfer hyn.

Y tu mewn i'r llyfrgell bydd ymwelwyr yn ymgolli mewn map rhithwir o'r ddinas a fydd yn cynnwys modelau 3D a straeon clywedol.

Mae StoryFutures Academy, Canolfan Genedlaethol y DU dros Adrodd Straeon y Gellir Ymgolli Ynddynt, yn flaenllaw o ran hyfforddi gweithwyr proffesiynol cyfryngau creadigol i ddefnyddio'r genhedlaeth nesaf o ddulliau adrodd straeon a gwella'u sgiliau yn y maes hwn.

Am ragor o fanylion ewch i story-trails.com, @StoryTrailsProject ar Facebook ac Instagram neu @StoryFuturesA a @StoryFutures ar Twitter.

Llun: Staff llyfrgelloedd Abertawe - aelodau allweddol o dîm StoryTrails y ddinas.