Annog busnesau i gofrestru i gynnig lle diogel i breswylwyr
Mae prosiect peilot wedi'i lansio sy'n ceisio rhoi sylw i fusnesau a safleoedd sy'n gallu cynnig lle diogel a chefnogaeth i bobl o bob oedran os ydynt yn teimlo'n bryderus, yn ofnus neu mewn perygl wrth iddynt fynd hwnt ac yma yn eu cymuned.
Mae Tîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe wedi lansio'r cynllun ac maent yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Heddlu De Cymru a busnesau yn Nhre-gŵyr a Gorseinon.
Bydd y rheini sy'n cofrestru'n gweld staff yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ac unwaith y byddant wedi'i gwblhau bydd posteri'n cael eu gosod yn eu ffenestri i gadarnhau eu bod yn cymryd rhan yn y cynllun.
Bydd staff yn gallu helpu neu dawelu meddyliau aelodau o'r cyhoedd, galw am gymorth os oes angen a chofnodi unrhyw ddigwyddiadau neu geisiadau ar daflen adrodd.
Mae'r partneriaid yn dweud y bydd yn helpu i greu amgylcheddau diogel ond bydd hefyd yn lleihau ofn trosedd ac yn annog pobl i adrodd am weithgarwch troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Mae lle diogel yn cynnig cymorth os yw rhywun yn bryderus, yn ofnus neu mewn perygl wrth iddo fynd hwnt ac yma yn y gymuned ac efallai angen cefnogaeth.
"Gall y cymorth a gynigir amrywio o alwad ffôn adref i ofyn i berthynas ei gasglu neu help gyda chyferiadau.
"Gall cynlluniau Lle Diogel fod yn unrhyw fan cymunedol - o lyfrgelloedd i fusnesau lleol."
Os bydd yn llwyddiannus, y bwriad fydd ehangu'r cynllun i gynnwys pob ward yn Abertawe.