Toglo gwelededd dewislen symudol

Uwch-ffigyrau'n cael taith o'r amddiffynfeydd môr er mwyn gweld cynnydd y prosiect

​​​​​​​Mae uwch-ffigyrau o Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru wedi cael taith o brosiect amddiffynfeydd môr y Mwmbwls.

Mumbles Seawall, January 2024

Mumbles Seawall, January 2024

Roedd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ymhlith y rheini a ddaeth i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth i'r cyngor weithio i amddiffyn y gymuned rhag stormydd a lefelau môr cynyddol yn y blynyddoedd a'r degawdau nesaf.

Roedd y gwesteion eraill yn cynnwys Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, Andrew Stevens, aelodau eraill o'r Cabinet, Aelod y Senedd ar gyfer Gŵyr, Rebecca Evans, ac AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi.

Mae'r prosiect mawr, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyflawni ar ran y cyngor gan y prif gontractwyr, Knights Brown. Mae preswylwyr a busnesau lleol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.

Mae'r gwaith diweddaraf ar safle 1.2km rhwng Sgwâr Ystumllwynarth a Verdi's wedi cynnwys gosod y paneli morglawdd concrit cyfnerthedig cyntaf.

Bydd gwaith dros y misoedd nesaf yn cynnwys gosod rheiliau a waliau isel ar ben y morglawdd a dechrau ar y gwaith yn y mannau cyhoeddus.

Bydd seddi, goleuadau, biniau sbwriel, cyfleoedd chwarae a chelf gyhoeddus newydd. Ni fydd unrhyw goed yn cael eu colli - a chaiff mwy o wyrddni ei blannu.

Bydd y slipffyrdd a'r grisiau sy'n darparu mynediad i'r traeth yn cael eu gwella; maent yn cefnogi'r prom ac yn darparu cyfleoedd hamdden ar gyfer cerddwyr a beicwyr, preswylwyr ac ymwelwyr.

Bydd cannoedd o leoedd parcio yn ardal glan môr y Mwmbwls o hyd.

Meddai Rob Stewart, "Rydym yn cryfhau ac yn gwella amddiffynfeydd môr y Mwmbwls i amddiffyn cartrefi, busnesau, sefydliadau, atyniadau a digwyddiadau yn erbyn newid yn yr hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Meddai Andrew Stevens, "Wrth i ni godi a chryfhau'r morglawdd, rydym hefyd yn gwella'r amddiffynfeydd ar lefel y prom, gan greu waliau carreg isel, deniadol a llethrau wedi'u tirlunio fel amddiffynfeydd ychwanegol."

Meddai Julie James, "Rwyf wrth fy modd yn gweld y cynnydd a wnaed ar safle Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls. Bydd y cynllun hwn yn lleihau'r risg o lifogydd i 126 o eiddo preswyl."

Meddai Rebecca Evans, "Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd, ac mae ein cymuned mewn perygl o lifogydd arfordirol ac erydiad. Yn ogystal ag amddiffyn eiddo, bydd y cynllun hwn yn cynnwys gwelliannau i'r promenâd er budd a mwynhad ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd." 

Meddai Tonia Antoniazzi, "Caiff ardal glan môr y Mwmbwls ei gwella ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr, a'i hamddiffyn rhag newid yn yr hinsawdd. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith wedi'i gwblhau."

Meddai Andrew Eilbeck, cyfarwyddwr is-adran Knights Brown, "Diolchwn i gymuned y Mwmbwls am eu hymateb cadarnhaol a'r anogaeth maent yn parhau i'w rhoi i ni wrth i ni weithio ar y prosiect."

Llun: Rob Stewart & Julie James.