Cyfle i ddweud eich dweud! Am ran allweddol o lan môr syfrdanol Abertawe
Anogir dinasyddion Abertawe i ddweud eu dweud am welliannau posib i lan môr Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Blackpill
Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed barn pobl am lan y môr, y traeth a'r cyfleusterau ar ddwy ochr y brif ffordd; maent eisiau gwybod pa welliannau yr hoffai preswylwyr lleol ac ymwelwyr eu gweld.
Y nod yn y tymor hir yw gwella'r cynnig glan môr gan wrando ar farn y bobl.
Mae'r Cyngor eisiau helpu i greu profiad cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn sy'n cefnogi'r economi leol, lles defnyddwyr a rheoli cynefinoedd naturiol.
Ni wnaed unrhyw benderfyniadau eto, ond gallai syniadau'r cyhoedd gynnwys:
- gwelliannau i gyfleusterau fel Lido Blackpill, Llyn Cychod Singleton, golff gwallgof Parc Singleton a'r cyfarpar ymarfer corff ar y prom;
- newidiadau i helpu pobl i gael mynediad i'r ardal ar droed, ar gefn beic, drwy gludiant cyhoeddus, mewn car neu ar Drên Bach y Bae Abertawe;
- gwella cyfleusterau ar gyfer twristiaeth, chwaraeon neu hamdden;
- gwelliannau i'r bwyd a diod sydd ar gael;
- annog mwy o fioamrywiaeth mewn lleoliadau fel y twyni tywod ac ardaloedd glaswelltog.
Gallai datblygiadau hefyd gynnwys gwella hygyrchedd neu gyfleusterau addysg fel cuddfannau, llwybrau cerdded neu fyrddau gwybodaeth sy'n esbonio cynefinoedd a rhywogaethau lleol.
Dechreuodd Ymgynghoriad Glan Môr Bae Abertawe ar 21 Mehefin a disgwylir iddo ddod i ben am ganol nos, nos Sul.
Mae'n cymryd oddeutu pum munud i'w gwblhau ac mae ar gael yma - www.bit.ly/Seafront24
Mae'r ymgynghoriad yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac mae'n rhan o raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin ehangach y Cyngor gwerth miliynau o bunnoedd sy'n canolbwyntio ar feysydd fel cyflogadwyedd, ardaloedd lleol, diwylliant a thwristiaeth, datblygu gwledig a chymorth i fusnesau.
Bydd unrhyw welliannau'n dibynnau ar y Cyngor yn sicrhau cyllid - ond bydd pob awgrym yn cael ei ystyried.