Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioe Awyr Cymru 2024 - rheoliadau ar gyfer masnachwyr ac arddangoswyr

Rheoliadau ar gyfer masnachwyr ac arddangoswyr.

1. Diffiniad o dermau

a. Rheoliadau. Defnyddir y term hwn ar gyfer yr holl ofyniadau a osodir gan y trefnwyr er mwyn cynnal Sioe Awyr Cymru 2024 ac ar gyfer unrhyw ychwanegiadau neu newidiadau pellach y mae'r trefnwyr yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

b. Trefnwyr. Ystyr y term hwn yw Cyngor Abertawe, eu gweision neu asiantiaid.

c. Arddangoswyr. Mae'r term hwn yn cynnwys holl weithwyr, gweision ac asiantiad unrhyw gwmni neu safydlad sy'n arddangos neu'n masnachu yn y Sioe Awyr.

2. Defnyddio'r rheoliadau

a. Y trefnwyr sy'n gyfrifol am reoli'r Arddangosfa Fasnachu ac mae eu penderfyniadau'n derfynol ac yn gyfrwymol ar yr holl arddangoswyr.

b. Mae hawl gan y trefnwyr, heb apel, i ddatrys yr holl achosion na ddarperir ar eu cyfer yn y rheoliadau.

c. Gellir gofyn i unrhyw berson neu sefydliad nad yw'n cydymffurfio a'r rheoliadau neu gyfarwyddiadau'r trefnwyr adael y digwyddiad ac ni fydd y trefnwyr yn ad-dalu unrhyw ffioedd safle neu daliadau eraill.

3. Atebolrwydd

a. Ni fydd y trefnwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i unrhyw arddangosfeydd ar unrhyw adeg, a chynghorir arddangoswyr i yswirio'u harddangosfeydd yn erbyn y fath golled neu ddifrod, gan gynnwys perygl o dân.

b. Bydd arddangoswyr yn gyfrifol am golled neu niwed neu anaf i eiddo a phobl (gan gynnwys arddangosfeydd eraill), a achosir ganddynt hwy, eu gweision neu eu hasiantiaid.

c. Bydd pob arddangoswr sy'n cymryd rhan yn yr Arddangosfa Fasnachu yn cytuno i ddigolledu'r trefnwyr yn erbyn unrhyw hawliadau o unrhyw natur y gellir eu cyflwyno yn erbyn y trefnwyr sy'n deillio o gyfranogiad yr arddangoswr yn yr Arddangosfa Fasnachol, neu'n gysylltiedig â hi.  Mae'r arddangoswr yn cytuno'n benodol bod y ddarpariaeth hon deg ac yn rhesymol.

d. Nid yw'r Trefnwyr yn derbyn atebolrwydd ac ni fyddant yn atebol i arddangoswyr na'u gweithwyr, gweision a/neu asiantau mewn perthynas ag unrhyw ddifrod uniongyrchol neu anuniongyrchol, colled neu anaf, i bersonau neu eiddo sy'n deilio o'r Arddangosfa Fasnach neu sy'n gysylltiedig a hi mewn unrhyw ffordd.

e. Cynghorir arddangoswyr yn gryf i gael yswiriant priodol rhag ofn y caiff y digwyddiad ei ganslo neu ei ohirio. Bydd unrhyw ad-daliad os bydd y sioe gyfan neu ran ohoni'n cael ei chanslo yn ôl disgresiwn y trefnwyr ac os rhoddir ad-daliad, bydd yn ad-daliad net ar ôl didynnu costau a thaliadau gweinyddol y trefnwr*. Ni fydd yr arddangoswyr yn gallu gwneud hawliad yn erbyn y trefnwyr os bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo neu ei ohirio dan unrhyw amgylchiadau.

f. Os bydd arddangoswr yn tynnu yn ôl o'r Arddangosfa Fasnachu ar ôl i'r trefnwyr neilltuo lle, bydd yr arddangoswr yn colli pob taliad a wnaed. Rhaid ysgrifennu at y trefnwyr os ydych yn tynnu'n ôl a fydd yn ceisio rhoi'r lle i rywun arall, ond nid yw rhoi'r lle i rywun arall o reidrwydd yn golygu y byddai'r arddangoswr yn cael ad-daliad o unrhyw daliadau a wnaed neu ryddhau unrhyw symiau y mae'n atebol amdanynt.

g. Os derbynnir cais gan unrhyw sefydliad y mae ei fusnes am ba reswm bynnag yn cael ei roi yn nwylo'r derbynnydd, bydd y cais hwnnw, oni cytunir fel arall, yn ysgrifenedig gan y  trefnwyr, yn ddi-rym hyd yn oed os y'i derbyniwyd yn flaenorol gan y trefnwyr, a bydd unrhyw arian a dderbyniwyd yn cael ei ad-dalu ar ôl didynnu'r holl gostau a threuliau yr aeth y trefnwyr iddynt.

h. Rhaid i arddangoswyr gydymffurfio â holl Ofynion a Rheoliadau Statudol y DU wrth gymryd rhan yn Sioe Awyr Cymru.

i. Mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i wrthod cais a hefyd yn cadw'r hawl i ganslo cais y gellir fod wedi'i dderbyn, neu wrthod derbyn unrhyw arddangosyn arfaethedig i'r digwyddiad, a hynny ar unrhyw gam. O dan y rheoliad hwn, pryd bynnag y caiff cais am le ei wrthod, neu os caiff lle a neilltuwyd ei ganslo gan y trefnwyr, neu os gwrthodir mynediad ar gyfer arddangosyn neu os caiff ei symud oddi yno, gall y ffïoedd a dalwyd am y lle, yn ôl disgresiwn y trefnwyr, gael eu had-dalu, ac os cânt eu had-dalu, cânt eu derbyn gan yr arddangoswr neu'r darpar arddangoswr, gan fodloni pob hawliad yn erbyn y trefnwyr.

j. Arddangoswyr sy'n gyfrifol am ddiogelwch y cyhoedd ar eu safleoedd, yn enwedig am arddangos yn ddiogel unrhyw arddangosion neu arddangosfeydd sy'n gweithio, ac maent yn gyfrifol am ddiogelwch eu harddangosion a'u heiddo.

k. Bydd ymwelwyr â Sioe Awyr Cymru'n gyfrifol am eu diogelwch eu hunain. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb gan Gyngor Abertawe, eu gweision, eu hasiantiaid, contractwyr annibynnol neu noddwyr am unrhyw anaf (gan gynnwys anaf angheuol), salwch, difrod neu golled uniongyrchol neu anuniongyrchol a berir i berson neu eiddo, p'un ai oherwydd esgeulustod neu fel arall.

l. Mae swyddogion diogelwch Sioe Awyr Cymru yn cadw'r hawl i gynnal archwiliadau diogelwch yr ystyrir eu bod yn ofynnol ac i wrthod mynediad i gerbydau a/neu bobl i Sioe Awyr Cymru a/neu ddargyfeirio ymwelwyr i ardaloedd y meysydd parcio.

4. Gofynion y swiriant

a. Mae'n ofynnol i arddangoswyr feddu ar Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus Trydydd Parti gyda therfyn digolledu nad yw'n llai na £5,000,000 ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ac sy'n cynnwys cymal digolledu prif bartïon. Os nad yw Yswiriant Atebolrwydd Trydydd Parti'r arddangoswyr yn cynnwys cymal digolledu prif bartïon at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i drefnwyr Sioe Awyr Cymru gael eu crybwyll yn benodol fel Prif Bartïon yn yr yswiriant sy'n berthnasol i'r contract y cytunwyd iddo trwy hyn.

5. Rheoliadau gwerthiannau

a. Disgwylir i stondinau ac arddangosfeydd fod o safon uchel.

b. Gwaherddir gwerthu'r eitemau canlynol:

  1. Gynau tegan realistig a gynau, neu arfau eraill, sy'n tanio unrhyw fath o daflegryn (e.e. gynau BB, gynau awyr, bwâu croes, catapyltiau).
  2. Cyllyll â llafn caeedig ac unrhyw gyllyll gan gynnwys cyllyll poced sy'n plygu.
  3. Da byw, pysgod byw ac adar mewn cewyll.
  4. Bwydydd neu luniaeth heb ganiatâd ysgrifenedig y trefnwyr.
  5. Balwnau Ni chaiff balwnau gael eu rhoi i bobl gan y gallant fod yn berygl i awyrennau arddangos sy'n hedfan yn isel.
  6. DRONAU Mae'n anghyfreithlon hedfan dronau am barhad y digwyddiad.
  7. Barcutiaid, ac eithrio rhai wedi'u pecynnu ac os bydd hysbysiad yn cael ei ddangos sy'n nodi'n glir na ddylid hedfan barcutiaid yn y digwyddiad.
  8. Tocynnau loteri, raffl neu hapchwarae.
  9. Unrhyw fath o gofroddion Sioe Awyr Cymru, neu atgynhyrchiad Sioe Awyr Cymru deunydd cyhoeddusrwydd, heb ganiatâd ysgrifenedig y trefnwyr.
  10. Raffl tocynnau teganau meddal.
  11. Unrhyw gynnyrch arall a nodir yn ysgrifenedig i arddangoswyr unigol gan y trefnwyr.
  12. Unrhyw fath o atebolrwydd / gwmnïau hawlio.

c. Atgynhyrchiad sain. GWAHERDDIR defnyddio meicroffonau a chwyddseinwyr i gynorthwyo gyda gwerthiannau. Mae'r trefnwyr hefyd yn cadw'r hawl i fynnu bod unrhyw gyfarpar y derbynnir cwynion amdanynt yn cael eu symud.

d. Cyfarpar radio a radar. Rhaid i arddangoswyr sy'n bwriadu defnyddio radio a/neu arddangosiadau radar gyflwyno manylion y fath gyfarpar i'r trefnwyr erbyn 15 Mehefin 2024 ier mwyn cael caniatâd i'w gweithredu.

e. Gwaherddir gwerthiannau crwydrol neu fasnachu tebyg.

f. Mae Tîm Digwyddiadau Cyngor Abertawe yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Safonau Masnach ym mhob digwyddiad a bydd yn darparu gwybodaeth pan ofynnir amdani. Rhaid i'r holl nwyddau a werthir ar dir y cyngor fod yn werthadwy ac o safon foddhaol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth Safonau Masnach.

g. Mae Cyngor Abertawe yn cadw'r hawl i dderbyn arddangoswyr sy'n rhoi nwyddau o fwyd, diod neu gynnyrch arall am ddim yn y digwyddiad.

6. Gwybodaeth gyffredinol

a. Cyflenwadau dŵr. Nid yw'r trefnwyr yn gallu darparu cyflenwad dŵr i safle unrhyw Arddangosfa Fasnachol. Bydd mannau dŵr ar gael yn y digwyddiad.

b. Dros nos. Gall arddangoswyr aros ar y safle dros nos dim ond os ydynt wedi rhoi gwybod i'r trefnwyr ymlaen llaw.

c. Pŵer. Rhaid i eneraduron fod yn fodelau diesel hynod dawel ac wedi'u ffensio/cuddio o aelodau'r cyhoedd. Gall eitemau trydanol a ddefnyddir ar gyfer y stondin fasnach fod yn destun prawf PAT gan gontractwr trydanol y digwyddiad.

d. Dosbarthu nwyddau. Gellir dosbarthu nwyddau rhwng 6.30am a 8.30am bob bore, a rhaid bod yr holl gerbydau wedi gadael y safle cyn 9.00am.

7. Trefnu safle

a. Gall arddangoswyr fynegi dewis ar gyfer safleoedd Arddangos Masnach, fodd bynnag, caiff safleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin ac ni ellir rhoi sicrwydd y bydd y safleoedd a ffefrir ar gael.

b. Nid yw cymryd rhan yn flaenorol yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn rhoi unrhyw hawliau i gymryd rhan mewn Sioeau Awyr dilynol.

c. Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno i'r trefnwyr ar y ffurflen briodol. Mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i wrthod cais cyfan neu ran ohono. Bydd derbyn neu wrthod y cais, yn llwyr neu'n rhannol, ynghyd â'r safle neilltuedig, yn cael ei gyflwyno'n ysgrifenedig gan y trefnwyr.

d. Mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i newid cynllun a lleoliad masnachwyr heb ddweud wrth yr arddangoswyr.

e. Mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i newid lleoliad unrhyw safle a ddyrannwyd eisoes.

f. Gwaherddir is-osod a/neu is-gontractio safleoedd.

g. Bydd ffiniau safleoedd yn cael eu marcio'n glir gan y trefnwyr.  Rhaid i arddangoswyr sicrhau bod eu harddangosfeydd, gan gynnwys yr holl gyfarpar cefnogi, pebyll a rhaffau tynhau, wedi'u cynnwys ym mhob ardal safle a ddiffiniedig.

h. Mae'n ofynnol bod arddangoswyr yn llofnodi'r Cais am Le Masnachu atodedig, mewn cytundeb i fod yn rhwym wrth y rheoliadau hyn.

8. Mynediad

a. I gael mynediad i'r safle, rhaid dangos tocyn cerbyd dilys, y bydd y trefnwyr yn eu rhoi i arddangoswyr.

b. Rhaid i arddangoswyr fynd i weld aelod o'r Tîm Digwyddiadau cyn cael eu tywys i'w safle dynodedig. Gall methu â chydymffurfio arwain at gael eich troi allan o'r digwyddiad.

9. Gosod

a. Ni allwch ddechrau codi a gosod y safle cyn 6pm nos Mercher 3 Gorffennaf 2024 heb ganiatâd penodol y trefnwyr. Rhaid gofyn am ganiatâd yn e-bostiwch.

b. Rhaid i arddangoswyr sicrhau eu bod ar gael ar y safle i dderbyn yr holl nwyddau gan nad yw'r trefnwyr yn gallu trin a thrafod cyfarpar yr arddangoswyr neu'r contractwyr.

c. Rhaid i arddangoswyr ddarparu'r holl lorïau y mae eu hangen arnynt ar gyfer stondinau awyr agored. Nid oes gan y trefnwyr unrhyw lorïau na deunyddiau llorio ac ni allant gael gafael ar y fath ddefnyddiau.

10. Rheoli'r safle

a. Mae'n ofynnol i arddangoswyr gadw'u safleoedd a'r llwybrau cerdded cyfagos yn daclus ar bob adeg.  Dylid rhoi sbwriel yn y biniau a'r sgipiau sbwriel a ddarperir gan y trefnwyr ac a fydd ar gael drwy gydol y dydd i'w casglu'n rheolaidd gan y tîm clirio sbwriel.

b. Rhaid i arddangoswyr, ddefnyddio'r mannau ailgylchu ym mhob ardal.

c. Rhaid i arddangoswyr sicrhau bod pobl yn bresennol ar eu safleoedd pan fydd y digwyddiad ar agor i'r cyhoedd h.y. 10.00am tan 6.00pm ar y dydd Sadwrn a'r dydd Sul. Bydd arddangoswyr nad ydynt yn cydymffurfio'n colli'r safle a'r ffïoedd a dalwyd.

d. Rhaid gosod y giardiau angenrheidiol ar arddangosion neu gyfarpar sy'n cynnwys darnau symudol i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch safonol sy'n rheoli'r math hwnnw o arddangosyn.

e. Dylai arddangoswyr sy'n dymuno codi mast neu adeiledd sy'n uwch na 4 metr gael caniatâd o flaen llaw gan y trefnwyr.

f. Ni chaiff arddangoswyr rwystro unrhyw aleau neu fannau agored, ac ni chânt osod arwydd neu dafluniad dros aleau neu fannau agored, neu effeithio ar unrhyw arddangosiad gerllaw.

g. Rhaid i arddangoswyr sydd am osod arwydd, hysbyslen neu hysbyseb mewn unrhyw leoliad ar wahân i'w safle nhw gael caniatâd ysgrifenedig y trefnwyr.

h. Nid oes cyfleusterau storio ar safle'r digwyddiad.

i. Ni fydd y trefnwyr yn atebol am fethu cyflenwi unrhyw gyfarpar neu gelfi a huriwyd ar ran yr arddangoswr.  Ni fydd hawl ychwaith gan yr arddangoswr i ad-daliad, neu ad-daliad rhannol, o unrhyw ffïoedd safle os na ddarperir cyfarpar neu gelfi o'r fath.

j. Defnyddir generaduron ar yr amod nad ydynt yn tarfu ar arddangoswyr eraill na'r cyhoedd.  Mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i fynnu bod cyfarpar y derbynnir cwynion amdanynt yn cael eu symud o'r safle.(DIM generaduron petrol).

k. Cerbydau sy'n rhan annatod o'r arddangosfa'n unig a ganiateir ar safle'r arddangosfa. Rhaid i'r holl gerbydau eraill gael eu parcio yn y meysydd parcio cyhoeddus dynodedig.

l. Unwaith y byddant ar y safle, ni all cerbydau gael eu symud yn ystod yr oriau y cynhelir y digwyddiad.

m. Ni chaiff arddangoswyr ddod â chŵn neu anifeiliaid anwes i'r digwyddiad.

n. Ni chaiff arddangoswyr gynnau unrhyw fath o farbeciw awyr agored ar eu safle masnachu, neu yn unrhyw le arall yn y digwyddiad.

11. Clirio'r safle

a. Ni all unrhyw arddangoswr orffen gweithredu cyn dydd Sul 6 Gorffennaf 2024.

b. Ni all arddangoswyr adael eu safle tan 7.30pm nos Sul 7 Gorffennaf i osgoi tagfeydd traffig a rhaid bod y safle wedi'i glirio'n llwyr erbyn 12pm ddydd Llun 8 Gorffennaf ac eithrio gyda chaniatâd uniongyrchol y trefnwyr.  Gallai arddangoswyr sy'n anwybyddu'r amserau hyn gael eu gwahardd o fasnachu yn y sioe yn y dyfodol. Ar ôl yr amser hwn, gall y trefnwyr gael gwared ar unrhyw wrthrychau y gwelir eu bod ar werth, a bydd yr arddangoswr yn gorfod talu'r gost. Rhaid gadael y safle yn yr un cyflwr ag yr oedd ar y dechrau. Caiff unrhyw ddifrod a achosir gan yr arddangoswr ei asesu gan y trefnwyr, a'r arddangoswr fydd yn gorfod talu'r gost i'w atgyweirio.

12. Iechyd, diogelwch a diogeledd

a. Asesiad risg. Mae arddangoswyr yn gyfrifol am ddiogelwch eu gweithwyr ac unrhyw drydydd partïon mewn perthynas â'u gweithgareddau ac yn enwedig am arddangos unrhyw arddangosion neu arddangosfeydd sy'n gweithio yn ddiogel.

b. Rhaid caniatáu mynediad i'r safleoedd ar bob adeg i'r trefnwyr a'r gwasanaethau iechyd a diogelwch swyddogol at ddibenion archwilio.

c. Mae arddangoswyr yn gyfrifol am ddiogelwch eu harddangosfeydd a'u heiddo ar bob adeg. Nid oes ffens o amgylch y safle.

d. Polisi smygu. Rhaid i'r holl fasnachwyr lynu wrth y ddeddfwriaeth ysmygu bresennol; yn arbennig, mae'n rhaid i stondinau masnachu sy'n caniatáu mynediad cyhoeddus arddangos arwyddion Dim Smygu swyddogol.

e. Gwasanaethau diogelwch. Bydd swyddogion diogelwch ac aelodau'r fyddin yn patrolio'r safle gyda'r nos a gwneir pob ymdrech i ddiogelu'r eiddo; ni all y trefnwyr sicrhau diogelwch eiddo'r arddangoswyr.

f. Rhagofalon tân. Bydd yn ofynnol i bob arddangoswr gwblhau'r  asesiad risgiau tân (Word doc) [211KB], rhaid i bob masnachwr gydymffurfio â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 -Digwyddiadau a Lleoliadau Awyr Agored.

13. Os bydd argyfwng

a. Rhowch wybod yn syth i'r trefnwyr neu unrhyw swyddogion diogelwch mewn lifrai.

b. Sicrhewch fod pawb yn cael eu symud o ardal y digwyddiad yn bwyllog.

c. Cadwch fynedfeydd yn glir ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Ionawr 2024