Toglo gwelededd dewislen symudol

Stondinau masnach Sioe Awyr Cymru 2024

Bydd y Sioe Awyr yn dychwelyn i'r awyr dros Fae eiconig Abertawe ar 6 - 7 Gorffennaf 2024. Bydd yn cynnwys rhai o'r timau arddangos mwyaf a gorau yn y byd Sioeau Awyr, 2 km o arddangosiadau ar y tir ac ardaloedd masnachu, a'r cyfan yn erbyn cefndir anhygoedl Bae Abertawe.

Gyda chefnogaeth y lluoedd arfog, mae'r arddangosiadau awyr yn cynnwys awyrennau preifat, rhai masnachol a rhai o'r Llu awyr Brenhinol, y Fyddin a'r Llynges ynghyd ag arddangosfeydd ar y ddaear. Rydym yn chwilio am stondinau masnach priodol i arddangos eu cynnyrch ar hyd y llinell arddangos.

Mae'r cyfle masnachu unigryw hwn yn cynnwys y manteision canlynol:

  • Sioe Awyr Fwyaf Cymru - www.walesairshow.co.uk.
  • Cwrdd â miloedd o ddarpar gwsmeriaid newydd.
  • Lansio neu arddangos eich brand / cynnyrch.
  • Cyfle gwerthu gwych.
  • Cyfle posib i gasglu data.

Am gyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad hwn, llenwch y ffurflen gais ar-lein isod, ynghyd â'ch asesiad risg tân (Word doc) [211KB] y bydd angen i chi ei lanlwytho gyda'ch cais. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth hefyd o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (isafswm o £5 milliwn) hefyd, a chynnwys ffotograff o'ch arddangosfa.

Rheoliadau ar gyfer masnachwyr ac arddangoswyr

Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin.

Close Dewis iaith