Wythnos Gwaith Cymdeithasol yn taflu goleuni ar yrfaoedd amrywiol a gwobrwyol
Mae pobl yn cael eu hannog i ystyried gyrfaoedd ym maes gwaith cymdeithasol wrth i Gyngor Abertawe daflu goleuni ar y gwaith anhygoel y mae ei dimau yn ei wneud i gefnogi pobl o bob oedran ar draws y ddinas.
Mae'n Wythnos Gwaith Cymdeithasol yr wythnos hon a thros y diwrnodau nesaf bydd y cyngor yn rhannu cyfres o fideos byr yn dangos y gwaith amrywiol a gwobrwyol y mae ei weithwyr cymdeithasol yn ei wneud ar ei dudalen swyddi Facebook ddynodedig.
Meddai Louise Gibbard, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Gofal, "Mae'n wych i fod yn dathlu wythnos gwaith cymdeithasol.
"Mae gweithwyr cymdeithasol yn chwarae rôl mor hanfodol yn ein cymunedau wrth gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion ar bob cam o'u bywyd.
"Rwyf wir am ddangos fy ngwerthfawrogiad am waith caled ac ymroddiad ein gweithwyr cymdeithasol a byddwn yn annog unrhyw un sy'n meddwl amdano i ymgymryd â'r rôl hon hanfodol hon."