Toglo gwelededd dewislen symudol

Gallai ehangu fferm solar greu cyfleuster o arwyddocâd cenedlaethol

Mae cynlluniau mawr â'r nod o helpu Abertawe i gyrraedd ei tharged sero net erbyn 2050 yn datblygu'n gyflym.

Solar Farm CGI

Solar Farm CGI

Mae cynigion ehangu eisoes yn cael eu harchwilio ar gyfer fferm solar i'w chynnal gan Gyngor Abertawe sydd i'w hadeiladu ar dir ar hen safle tirlenwi Tir John yn Port Tennant.

Dan gynlluniau a gymeradwywyd yn ddiweddar, byddai'r fferm solar 11 hectar yn cynnwys 5,500 o baneli solar a fyddai'n cyfuno i gynhyrchu 3MW o ynni gwyrdd y flwyddyn.

Bydd y fferm ar dir sydd wedi'i gapio a'i lasu ers i Dir John gael ei gau fel safle tirlenwi.

Yn amodol ar gymeradwyaeth yn y dyfodol, mae cynigion ehangu yn yr arfaeth hefyd a fyddai'n ailbwrpasu safle cyfan Tir John fel rhan o ddatblygiad porthladd Abertawe sy'n werth £4 biliwn a adwaenid yn flaenorol fel Eden Las.

Os eir ymlaen â'r cynlluniau ehangu, byddant yn arwain at gyfleuster ynni solar a fyddai'n gallu cynhyrchu dros 11,000 MWh y flwyddyn pan fydd yn gwbl weithredol, i greu datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol.

Mae prosiect datblygu porthladd Abertawe sydd hefyd yn cynnwys morlyn llanw arfaethedig, yn cael ei arwain gan DST Innovations. Os bydd y cynlluniau i ehangu'r fferm solar yn mynd yn eu blaenau yn y dyfodol, byddai'r cyngor yn prydlesu'r tir i'r cwmni.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Roeddem ymysg y cynghorau cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i dorri ôl troed carbon y ddinas.

"Mae datblygiadau fel y fferm solar newydd i'w hadeiladu a'r posibilrwydd o'i hehangu yn y dyfodol yn bwysig oherwydd byddant yn cyfrannu at darged sero net y ddinas a osodwyd gennym ar gyfer 2050, wrth helpu Llywodraeth Cymru gyflawni ei huchelgais sef bod 70% o'r ynni a ddefnyddir yng Nghymru'n dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.

"Bydd y gallu i werthu ynni gwyrdd a gynhyrchwyd yn y fferm solar i'r grid a sefydliadau eraill hefyd yn cynhyrchu refeniw i'r cyngor a fyddai'n cael ei ailfuddsoddi nôl yng ngwasanaethau'r cyngor er budd ein preswylwyr a'n busnesau.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae hyn ymysg pecyn o fesurau y mae'r cyngor yn eu rhoi ar waith wrth i ni geisio mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gadael dinas mor gynaliadwy â phosib i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol. Mae gennym y cerbydlu gwyrdd mwyaf o'r holl gynghorau yng Nghymru, a disgwylir i dros 1,200 o dai cyngor yn Abertawe gael paneli solar ar eu toeon i helpu tenantiaid i gynhyrchu pŵer gwyrdd wrth dorri eu biliau ynni.

"Mae llawer mwy o wyrddni naturiol yn cael ei blannu hefyd ar draws y ddinas, a disgwylir i ddatblygiadau newydd gynnwys ffyrdd a fydd yn helpu i dorri ôl troed carbon y ddinas ymhellach.

Mae elfennau arfaethedig eraill o ddatblygiad porthladd Abertawe'n cynnwys posibilrwydd o ehangu safle parcio a theithio Fabian Way i greu hwb trafnidiaeth ynni gwyrdd a fydd yn cynnwys gorsaf cynhyrchu hydrogen ar gyfer trafnidiaeth a bwerir gan hydrogen a digon o bwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Gallai fferm solar wedi'i hehangu yn Nhir John gysylltu'r hwb trafnidiaeth â nodweddion eraill y prosiect cyffredinol i fwyafu'r defnydd o'r ynni gwyrdd a gaiff ei gynhyrchu ar y safle.

Bwriedir i brosiect datblygu porthladd Abertawe hefyd gynnwys cyfleuster cynhyrchu batris uwch-dechnoleg, fferm fatris i storio'r ynni a gynhyrchir ar y safle a chyfleuster solar arnofiol.

Bwriedir cynnwys canolfan ddata enfawr, datblygedig, canolfan ymchwil gefnforol a newid yn yr hinsawdd ac eco-gartrefi ynni effeithlon wedi'u hangori yn y dŵr  hefyd ynghyd â system wresogi ardal gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Mehefin 2023