Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnes yn Abertawe'n mynd yn wyrdd gyda grant lleihau carbon

Mae busnes yng nghanol dinas Abertawe ar y ffordd i gael ei bweru'n gyfan gwbl gan ynni adnewyddadwy.

Llyr Roberts Cwtsh Hostel

Cwtsh Hostel Llyr

Mae naw deg chwech o baneli solar wedi'u gosod ar ben to Cwtsh Hostel ar Castle Street, gan helpu'r busnes i dorri ei ôl troed carbon ac arbed arian ar ei filiau ynni.

Ers i'r paneli ddechrau gweithredu ar ddiwedd mis Ionawr, maent eisoes wedi cynhyrchu  dros 1.2mw o drydan gwyrdd.

Mae Cwtsh Hostel hefyd wedi prynu batri uwch-dechnoleg i storio'r pŵer a gynhyrchir, gan olygu y gallant werthu ynni dros ben i'r grid ac ailfuddsoddi'r elw yn y busnes.

Helpodd Cyngor Abertawe i ariannu'r paneli solar a'r batri gyda grant lleihau carbon drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Roedd Banc Datblygu Cymru wedi cyfrannu cyllid i'r prosiect hefyd.

Yn ogystal â phodiau a llety preifat, mae Cwtsh Hostel yn cynnwys ardal gymunedol, cegin gymunedol, siop goffi fach, gemau a thaflunydd ar gyfer profiad ffilm sy'n debyg i fod mewn sinema.

Meddai Llyr Roberts, perchennog Cwtsh Hostel owner, "Mae cyflwyno'r prosiect paneli a batri solar yn allweddol i lwyddiant ariannol ac amgylcheddol tymor hir y busnes, felly rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid rydym wedi'i dderbyn.

"Mae Cwtsh Hostel yn fusnes gwyrdd yn ei hanfod, a bydd y prosiect hwn yn gwella delwedd y busnes ymhellach fel un sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd.

"Bydd y prosiect, sy'n helpu i dorri ein hôl troed carbon yn sylweddol, hefyd yn helpu'r busnes i arbed arian ar ein biliau ynni. Bydd hyn yn diogelu ein safle yng nghanol dinas Abertawe wrth alluogi'r potensial ar gyfer twf busnes a chyfleoedd cyflogaeth pellach."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r prosiect yn Cwtsh Hostel i'w groesawu'n fawr oherwydd bydd yn helpu Abertawe i gyrraedd ei darged sero net yn y dyfodol wrth ddiogelu dyfodol busnes arloesol yng nghanol y ddinas.

Mae'r grant lleihau carbon, y bwriedir iddo helpu busnesau lleol i dorri eu hôl troed carbon ac arbed arian ar eu biliau ynni, ymysg nifer o gynlluniau cyllido sydd ar waith i gefnogi cymuned fusnes y ddinas.

"Mae ein busnesau yn gwneud cyfraniad enfawr at gyflogaeth a'r economi leol, felly rydym wrth law i'w cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn."

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau'r cynllun er mwyn cael y grant lleihau carbon.

Mae angen i'r holl ymgeiswyr gofrestru ar gyfer cwrs misol am ddim a gynhelir gan y cyngor, a fydd yn dangos i fusnesau sut i nodi mesurau i leihau eu hôl troed carbon a gwella'u heffeithlonrwydd ynni. Bydd y cwrs hefyd yn dangos i fusnesau sut i gynnal archwiliad ynni.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Mawrth 2024