Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ariannol ar gyfer siop ffasiwn i fenywod yn y Mwmbwls

Mae siop ffasiwn boblogaidd i fenywod ar lan y môr yn y Mwmbwls wedi gallu datblygu presenoldeb ar-lein, diolch i hwb ariannol.

Helen Bowden and Carol Thomas (Solo)

Helen Bowden and Carol Thomas (Solo)

Cyflwynodd Helen Bowden, perchennog newydd Solo ar Mumbles Road, gais llwyddiannus i Gyngor Abertawe am grant twf busnes a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dechreuodd Helen feddiannu'r busnes yn yr haf yn dilyn ymddeoliad ei ffrind a sylfaenydd siop Solo, Lynne Kettles, a oedd wedi rhedeg y busnes ers 40 mlynedd.

Mae'r cyllid gan y cyngor bellach wedi helpu Solo i fuddsoddi mewn siop fanwerthu ar-lein a sioeau ffasiwn wedi'u ffrydio'n fyw o'i stiwdio ei hun, sy'n galluogi ar gyfer cyfleoedd prynu yn y fan a'r lle. 

Mae hefyd wedi helpu'r busnes i gyflwyno man gwerthu electronig a system farchnata wedi'u hintegreiddio'n llawn er mwyn cyflymu prosesau gwerthu, deall yn well pa stoc sydd ar gael a gwella'r broses o werthuso tueddiadau gwerthu.

Meddai Helen, "Mae Lynne wedi gwneud gwaith gwych ers blynyddoedd ac wedi sefydlu sylfaen cwsmeriaid ffyddlon drwy gynnig dillad steilus a fforddiadwy o safon, gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a phrofiad siopa personol.

"Mae ei gwaith diflino a'i hymroddiad wedi arwain at greu sylfaen wych ar gyfer Solo,yr ydym yn bwriadu ei chynnal ac adeiladu arni yn y blynyddoedd nesaf.

"Mae datblygu siop rithwir ar-lein yn ogystal â siop fanwerthu yn hanfodol ar gyfer y busnes yn yr oes fodern, ynghyd â buddsoddi mewn technoleg arall sy'n galluogi ar gyfer gwerthiannau yn y fan a'r lle, ffrydio sioeau ffasiwn byw a gwella marchnata.

"Mae'r grant gan Gyngor Abertawe yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw, wrth hefyd ddiogelu swyddi yn Solo ac o bosib helpu i greu mwy o swyddi yn y dyfodol."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn cydnabod yr heriau y mae busnesau lleol yn eu hwynebu a'u rôl allweddol mewn sbarduno cyflogaeth a'r economi.

"Dyna pam rydym wedi sicrhau bod cymorth i fusnesau yn thema fawr ar gyfer defnyddio'n dyraniad o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y DU yma yn Abertawe.

"Mae Solo yn y Mwmbwls yn haeddu derbyn grant twf. Mae wedi bod wrth wraidd y gymuned leol ers dros 40 mlynedd, a bwriedir i'r buddsoddiad newydd helpu'r busnes i ddiwallu anghenion yr oes dechnolegol a sicrhau sawl blwyddyn arall o fasnachu llwyddiannus yn y dyfodol."

Yn ogystal â grantiau twf busnes, mae sawl grant arall a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gael i fusnesau Abertawe, drwy'r cyngor.

Maent yn cynnwys grantiau cyn dechrau, grantiau lleihau carbon a grantiau datblygu gwefannau.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau i gael rhagor o wybodaeth.

Close Dewis iaith