Toglo gwelededd dewislen symudol

Diolch yn cael ei roi i blant gofalwyr maeth am eu rôl hanfodol

Mae Cyngor Abertawe'n tynnu sylw at y rôl werthfawr y mae plant gofalwyr maeth yn ei chwarae mewn teulu sy'n maethu fel rhan o fis Meibion a Merched (1-31 Hydref).

Foster Alfie and Rosie

Foster Alfie and Rosie

Mae ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu'n dathlu ac yn cydnabod y cyfraniad anhygoel y mae meibion a merched yn ei wneud wrth groesawu plant maeth i'w teuluoedd.

Mae gwasanaeth maethu'r cyngor, Maethu Cymru Abertawe, yn cefnogi'r ymgyrch i gydnabod darparu cartrefi cariadus, diogel a chyfeillgar i blant eraill.

Efallai y bydd llawer o bobl yn poeni am effaith bosib maethu ar eu plant eu hunain a dyma'r prif reswm pam nad ydynt yn dewis dod yn ofalwyr maeth. Fodd bynnag, mae gan 47% o ofalwyr Maethu Cymru Abertawe blant geni neu fabwysiedig sy'n dal i fyw gartref a gall eu presenoldeb hwy wneud byd o wahaniaeth i blant maeth.

Mae Alfie, 12 oed a Rosie 10 oed yn frawd a chwaer sy'n mwynhau bod yn rhan o deulu sy'n maethu.

Meddai Rosie: "Dwi'n hoffi'r ffaith bod fy nheulu'n maethu a dwi'n falch iawn. Rwy'n credu bod pob plentyn yn haeddu bod yn ddiogel. Rwy'n teimlo fy mod i'n gwneud plant eraill yn hapus. Dwi wedi cwrdd â llawer o bobl newydd.

"Fe wnes i ffrindiau newydd pan es i i'r grŵp meibion a merched oherwydd fe ges i gyfle i siarad â phlant eraill y mae eu teuluoedd yn maethu. Rwy'n caru fy mrawd maeth. Mae e'n ddoniol ac yn gwneud i fi deimlo'n hapus. Rwy'n hoffi'r ffaith bod y plant sy'n dod i fyw gyda ni'n tyfu lan ac yn dod y gorau y gallant fod."

Ychwanegodd Alfie, "Mae gofalwyr maeth yn cael effaith gadarnhaol ar blant diamddiffyn yn y gymdeithas rydym yn byw ynddi. Rwy'n credu bod rhai pobl yn ymatal rhag maethu oherwydd maen nhw'n meddwl na fydd eu plant eu hunain yn ei hoffi, ond dwi'n anghytuno'n llwyr.

"Mae maethu'n wych ac os unrhyw beth, mae'n gwneud bywyd yn fwy difyr. Ers maethu, dw i a fy nheulu wedi helpu llawer o blant. Mae gen i frawd maeth yn awr sy'n rhan fawr o'm bywyd. Rwy'n teimlo fy mod yn gosod esiampl dda iddo'i dilyn ac rwy'n dwlu ar y ffaith ei fod yn rhan o'n teulu. Y rhan galed o faethu yw pan fydd plant yn gadael, ond mae gwybod bod fy nheulu wedi'u helpu yn fy ngwneud i'n hapus. Pan fydda' i'n tyfu lan, dwi am fod yn ofalwr maeth."

Mae tîm Maethu Cymru Abertawe yn cynnal grŵp cefnogi i blant eu gofalwyr maeth fel eu bod yn teimlo bod ganddynt gefnogaeth ac yn gallu siarad â phlant eraill sy'n rhan o'r teulu maethu.

Meddai'r Cynghorydd Elliott King, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, "Hoffwn ddweud diolch enfawr i holl blant ein gofalwyr maeth a dathlu'r cyfraniad pwysig maent yn ei wneud i ofal maeth. Rwyf mor falch o'r hyn maen nhw'n ei wneud. Rwyf am dalu teyrnged iddynt am greu amgylcheddau cariadus, diogel a chyfeillgar i blant eraill.

"Rwy'n deall y gallai llawer o bobl sy'n ystyried maethu bryderu am yr effaith bosib ar eu plant eu hunain. Fodd bynnag, mae plant ein gofalwyr maethu'n dystiolaeth o'r effaith gadarnhaol y gall tyfu lan mewn teulu sy'n maethu ei chael. Gall gweld bywyd o safbwynt person arall fod yn brofiad sy'n cyfoethogi a gall helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn.

"Maen nhw'n chwarae rôl hanfodol wrth helpu plant maeth i addasu i'w hamgylchedd newydd a gallant ddod yn ffigwr mentor wrth helpu plentyn maeth i ymgartrefu yn ei gartref a chwrdd â ffrindiau newydd.

"Mae meibion a merched gofalwyr maeth yn arwyr di-glod ac rydym am i bob plentyn a pherson ifanc sy'n tyfu lan fel rhan o deulu sy'n maethu wybod pa mor bwysig ydynt."

Mae maethu'n ymagwedd teulu cyfan a bydd pawb ar yr aelwyd yn rhan o'r penderfyniad i faethu a'r broses asesu. Mae Maethu Cymru Abertawe'n cynnal grŵp penodol i gefnogi meibion a merched lle caiff digwyddiadau a gweithgareddau eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Mae'n gyfle i gwrdd â phlant eraill o deuluoedd sy'n maethu ac yn rhannu eu profiadau mewn amgylchedd difyr a diogel.

Mae angen rhagor o ofalwyr maeth o hyd ar Faethu Cymru Abertawe. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru neu ffoniwch 0300 555 0111.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Hydref 2021