Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynhyrchiad theatr Abertawe wedi'i enwi fel un o oreuon y DU

Enwyd drama a gynhaliwyd yn Theatr y Grand Abertawe fel un o rai gorau'r DU yn 2023.

Sorter, 2023

Sorter, 2023

Rhestrwyd Sortergan gyhoeddiad dylanwadol y celfyddydau The Stage fel un o 50 o'r cynyrchiadau gorau ar draws y DU ac Iwerddon y llynedd.

Fe'i cynhaliwyd ym mis Mawrth, ac fe'i cyflwynwyd gan dîm Uchelgais y Grand Theatr y Grand.

Mae Sorter, a ysgrifennwyd gan gyd-sylfaenydd Uchelgais y Grand, Richard Mylan, yn adrodd hanes dau berson sy'n gaeth i heroin ac fe'i gwyliwyd gan dros 1,300 o bobl.

Dyma oedd cynhyrchiad gwreiddiol cyntaf y tîm ac roedd yn cynnwys Mylan a Sophie Melville, a aned yn Abertawe.

Fe'i hysbrydolwyd gan brofiadau Mylan ei hun wrth iddo adfer ar ôl iddo dod yn gaeth i heroin. Roedd yn trafod camddefnyddio sylweddau, colli plant, cam-drin plant a hunanladdiad.

Uchelgais y Grand yw'r cydweithrediad rhwng Cyngor Abertawe, sy'n cynnal y theatr, a'r artistiaid proffesiynol Mylan, Steve Balsamo, Michelle McTernan a Christian Patterson, sy'n byw yn y ddinas.

Sefydlwyd Uchelgais y Grand, a hwylusir gan Gronfa Cadernid Economaidd (CCE) Llywodraeth Cymru, er mwyn iddo ddod yn gwmni preswyl yn y theatr yn 2021.

Roedd y CCE tymor byr, a gefnogwyd gan dîm Gwasanaethau Diwylliannol y cyngor, yn gyfle i'r theatr ac i Uchelgais y Grand ddenu cynulleidfaoedd newydd, theatr ieuenctid a thalentau lleol, gan gynnwys Sorter.

Yn dilyn ei lwyddiant cychwynnol, mae gwaith Uchelgais y Grand yn parhau o ganlyniad i Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Elliot King, "Roedd Sorteryn ddrama anhygoel ac mae'n wych gweld bod Uchelgais y Grand yn parhau â gwaith amrywiol arall gyda chymunedau ar draws Abertawe."

Meddai Richard Mylan, "Mae'n wych gweld bod Abertawe ac Uchelgais y Grand wedi derbyn canmoliaeth gan The Stage.

"Rydym am annog, cefnogi a chysylltu'r celfyddydau i'n dinas."

Llun: Sorter.

 

 

Close Dewis iaith