Toglo gwelededd dewislen symudol

Canmol Lleoedd Llesol Abertawe am eu cymorth dros y gaeaf

Diolchwyd i elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill ar draws Abertawe sydd wedi agor eu drysau i gynnig lleoedd cynnes a chroesawgar i bobl fynd iddynt yn ystod y gaeaf am helpu i ddarparu llinell fywyd i'r rheini sydd ei hangen fwyaf.

Swansea Space - Llansamlet Church

Swansea Space - Llansamlet Church

Ychwanegodd dros 80 o leoliadau eu gwasanaethau at gyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe yr hydref diwethaf, gan amlygu'r hyn yr oeddent yn gallu ei gynnig i'r cyhoedd dros fisoedd y gaeaf.

Roedd Cyngor Abertawe, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, wedi gallu darparu grantiau i dros 70 ohonynt er mwyn iddynt allu cynnal eu lle llesol.

Mae Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, wedi ymweld â rhai ohonynt dros yr ychydig fisoedd diwethaf a dywedodd ei bod wedi'i "syfrdanu" gan yr hyn mae wedi'i weld.

"Pan lansiwyd cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe roedd nifer y sefydliadau a oedd eisiau cymryd rhan yn llawer fwy na'r disgwyl," meddai.

"Dechreuodd fel ymateb i'r argyfwng costau byw ac roedd pryder mawr y byddai angen lle cynnes a chroesawgar i bobl fynd iddo oherwydd eu bod yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi eu hunain.

"Mae bendant wedi gwneud y tro, ond mae wedi datblygu'n rhywbeth hyd yn oed yn fwy. Mae trefnwyr, gwirfoddolwyr a phobl sydd wedi bod yn defnyddio'r gwasanaethau wedi dweud wrthym eu bod wedi cael effaith go iawn o ran mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd."

Close Dewis iaith