Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyma nhw! Enillwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe

Mae amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau chwaraeon cymunedol sy'n perfformio'n dda wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe 2023.

SportsAwards2023

SportsAwards2023

Cafwyd mwy na 100 o enwebiadau ar gyfer y cynllun a gynhelir gan Gyngor Abertawe - ac mae'r rheini a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cynrychioli ystod eang o glybiau a gweithgareddau cymunedol.

Cyhoeddwyd yr enillwyr yn ystod digwyddiad gwobrwyo yn Neuadd Brangwyn (sylwer: nos Iau, 28 Mawrth), yr oedd mwy na 400 o bobl yn bresennol ynddo, gan gynnwys pobl bwysig ym myd chwaraeon.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae ein henillwyr - a'r rheini a gyrhaeddodd y rhestr fer - yn dangos bod Abertawe'n ddinas llawn pencampwyr chwaraeon.

"Roedd yn fraint gweld wynebau hapus y rheini a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, ac yn galonogol iawn gweld unigolion, timau a hyfforddwyr yn cael cydnabyddiaeth.

"Hoffai dîm chwaraeon ac iechyd y Cyngor ddiolch i bawb a oedd wedi enwebu eu pencampwyr chwaraeon ar gyfer 2023.

"Roedd yr enillwyr yn amrywio o wirfoddolwyr a hyfforddwyr a wnaeth weithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni, ac unigolion ymroddedig sy'n cyflawni'r canlyniad gorau yn eu camp. Hoffwn ddiolch i'r rheini a wnaeth gyflwyno enwebiadau."

Mae chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn chwarae rhan bwysig a chadarnhaol iawn yn iechyd a lles pobl a dyna pam, fel Cyngor, rydym yn parhau i fuddsoddi yn isadeiledd chwaraeon y ddinas gyda'n partneriaid, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gael mynediad cyfartal at gyfleusterau chwaraeon ar draws y ddinas.

Cynhaliwyd y noson wobrwyo mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.

Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2023

Mae Abertawe'n parhau i dynnu sylw at ei phencampwyr chwaraeon wrth i Gyfres Para Treiathlon y Byd 2024 ac Ironman 70.3 ddychwelyd eleni, ynghyd â ras 10k Bae Abertawe Admiral a hanner marathon Bae Abertawe.