Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyma hi! Rhestr fer Gwobrau Chwaraeon Abertawe

Mae amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau chwaraeon cymunedol sy'n perfformio'n dda wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2023.

Sports Awards 2023

Sports Awards 2023

Cafwyd mwy na 100 o enwebiadau ar gyfer y cynllun a gynhelir gan Gyngor Abertawe - ac mae'r rheini a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cynrychioli ystod eang o glybiau a gweithgareddau cymunedol.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Gweithiodd athletwyr y ddinas yn galed y llynedd ac rydym yn mwynhau cydnabod ac anrhydeddu eu cyflawniadau a'u cyfraniadau eithriadol i chwaraeon drwy Wobrau Chwaraeon Abertawe."

Disgwylir i'r noson wobrwyo, ar y cyd â Freedom Leisure, gael ei chynnal yn Neuadd Brangwyn o 7pm nos Iau 28 Mawrth. Bydd tocynnau ar werth o 1 Chwefror - joiobaeabertawe.com

Enwebeion

Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn -  noddir gan Arvato CRM Solutions

·       Rhys Meredith

·       Jamie Parker

·       Jackson Tanner

Gwirfoddolwr y Flwyddyn - noddir gan John Pye Auctions

·       Karl Brady

·       Wendy Williams

·       Adrian Weston

Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn - noddir gan Chwaraeon Cymru

·       Andy Parkinson

·       Michael White

·       Olivia Davies

Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn - noddir gan Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe

·       Daniel Parker

·       Adam Baker a Stuart McNarry

·       Hayley Baker

Chwaraewr Iau'r Flwyddyn - noddir gan Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe

·       Rory Johns

·       Jacob Beynon

·       Ioan Carter Jones

·       Cedric Davies

Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn - noddir gan Pure Football Abertawe

·       Katie Lee

·       Mullai Chandramohan

·       Olivia Roberts

·       Libby Hale

Tîm Ysgol y Flwyddyn - noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe

·       Tîm Rygbi Hŷn Ysgol Gyfun Gŵyr

·       Tîm Pêl-droed Merched dan 13 oed Ysgol Tre-gŵyr

·       Tîm pêl-droed Merched dan 13 oed Ysgol Cefn Hengoed

Annog Abertawe Actif - noddir gan  St Modwen Homes

·       Nicky Nijjer

·       Prosiect Atgofion Chwaraeon y Gweilch yn y Gymuned

·       Sacha Simmons a Frenz Pickleball

Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn - noddir gan EYST Cymru

·       Tîm dan 16 oed Clwb Rygbi Treforys

·       Tîm Gymnasteg Elît Abertawe

·       Tîm Pêl-rwyd dan 18 oed Treforys

Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn  - noddir ganThe Car Warehouse

·       Clwb Treiathlon Bro Tawe

·       SPOC (Clwb Cyfeiriannu Bae Abertawe)

·       Adran Hŷn Clwb Beicio 'Gower Riders'

Chwaraewr Iau'r Flwyddyn ag Anabledd - noddir gan StoweFamily Law

·       Caleb Alexander Morrison

·       Sienna Allen Chaplin

·       Zac Thomas

Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd - noddir gan Nathaniel Cars

·       Ben Pritchard

·       James Ledger

·       Harrison Walsh

Chwaraewr y Flwyddyn - noddir gan McDonald's

·       Ben Pritchard

·       Jac Morgan

·       Joe Brier 

Llun: Cyflwyniad mewn noson Gwobrau Chwaraeon Abertawe flaenorol 

 

 

Close Dewis iaith