Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgubor Chwaraeon Dan Do gyda chae 3G yn dod yn ei flaen

Mae sgubor chwaraeon dan do newydd a fydd yn cynnwys cae 3G yn dod yn ei flaen.

Cefn Hengoed Sports Barn Steel Frame

Cefn Hengoed Sports Barn Steel Frame

Mae ffrâm ddur yr adeilad a fydd yn helpu i drawsffurfio'r cyfleusterau chwaraeon yn Ysgol Gymunedol a Chanolfan Hamdden Cefn Hengoed ar ochr ddwyreiniol y ddinas wedi'i chodi.

Mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £7.5m sydd hefyd yn cynnwys gwelliannau i'r ysgol, y ganolfan hamdden a chanolfan ymgysylltu newydd i deuluoedd.

Mae hefyd yn cynnwys ystafelloedd ffitrwydd newydd, caffi, stiwdio hyblyg, ystafelloedd newid, mynedfa newydd a mannau parcio yn y ganolfan hamdden.

Ariannwyd y Sgubor Chwaraeon a'r gwelliannau i'r Ganolfan Hamdden a'r ysgol gan Gyngor Abertawe a Chynllun Grantiau Cyfalaf Hybiau Cymunedol Llywodraeth Cymru, gyda grant o £750,000 gan The Football Foundation  gyda chefnogaeth gan Sefydliad Dinas Abertawe.

Ariennir y Ganolfan Ymgysylltu â Theuluoedd yn y Gymuned' gan Gynllun Grantiau Cyfalaf Ysgolion yn eu Cymunedau Llywodraeth Cymru.

Gwnaed cyfraniadau pellach gan Chwaraeon Cymru, yn ogystal â Freedom Leisure sy'n rheoli'r ganolfan hamdden mewn partneriaeth â'r cyngor.

Close Dewis iaith