Mae ysgol gynradd gynhwysol yn groesawgar ac yn fywiog
Mae arolygwyr Estyn wedi canfod bod Ysgol Gynradd San Helen yn Abertawe yn fywiog, yn groesawgar ac yn gynhwysol iawn.
Gwnaethant ymweld â'r ysgol yn Sandfields yn gynharach eleni ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.
Mae'r adroddiad yn dweud: "Mae arwyddair yr ysgol, "Pawb yn wahanol, pawb yn gyfartal", yn amlwg ym mhob agwedd ar ei darpariaeth.
"Mae ffydd, ieithoedd a diwylliannau amrywiol y gymuned y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu yn cael eu croesawu a'u dathlu, ac mae staff a disgyblion yn dangos parch, cyfeillgarwch ac empathi at ei gilydd.
"Mae disgyblion yn mwynhau mynd i'r ysgol ac maent yn gwneud cynnydd da gyda'u dysgu a'u lles. Maent yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael y gofal cywir a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae hyn yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr hyderus a galluog."