Disgyblion yn 'mwynhau' mynd i ysgol hapus a gofalgar
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant yn mwynhau mynd i'r ysgol yn fawr ac mae ganddynt ymdeimlad dwfn o berthyn, canfu arolygwyr o Estyn.
Mae eu hymddygiad yn rhagorol ac maent yn gwneud cynnydd cadarn mewn sawl maes dysgu pan fyddant yn y dosbarth.
Ymwelodd yr arolygwyr â'r ysgol ym Môn-y-maen ar ddiwedd tymor diwethaf ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.
Mae'n dweud: "Mae bron pob disgybl ac aelod o staff yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo eu bod yn cael gofal a chefnogaeth ac o ganlyniad, mae ganddynt agweddau cadarnhaol at eu dysgu."