Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad Expo am ddim ar gyfer entrepreneuriaid uchelgeisiol yn Abertawe

Mae pobl fusnes uchelgeisiol yn Abertawe yn cael eu hannog i fynd i ddigwyddiad am ddim fis nesaf a fydd yn helpu i'w hysbrydoli, eu cefnogi a'u harwain.

Arena and marina

Arena and marina

Cynhelir y digwyddiad Expo Busnesau Newydd Abertawe yn Arena Abertawe ddydd Mercher, 6 Mawrth.

Bydd sesiwn yn ystod y dydd o 2pm i 5pm, a sesiwn gyda'r hwyr o 5pm i 8pm.

Mae'r digwyddiad siop dan yr unto yn cael ei drefnu gan 4 The Region mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe.

Bydd yn cynnwys sgyrsiau gan entrepreneuriaid a gweithdai a arweinir gan arbenigwyr ar bynciau fel grantiau a chyllid, cyflogi pobl, marchnata, cynllunio busnes a dod o hyd i'r fangre iawn.

Datblygwyd y syniad am y digwyddiad yn y lle cyntaf gan Ardal Gwella Busnes Abertawe (AGB), a aeth ymlaen i ddechrau trafodaethau gyda 4 The Region a phartneriaid y digwyddiad.

Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe, "Rydym yn angerddol dros feithrin ysbryd entrepreneuraidd ac arwain ffyniant o fewn ein cymuned fywiog.

"Ynghyd â'n partneriaid, rydym yn cydnabod bod angen darparu'r adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl fusnes awyddus yn Abertawe er mwyn iddynt ffynnu, felly penderfynwyd ar Expo Busnesau Newydd Abertawe yn dilyn ein sgyrsiau cydweithredol.

"Mae'n mynd i fod yn ddigwyddiad gwych a fydd yn ysbrydoli, yn cefnogi ac yn arwain entrepreneuriaid y dyfodol ar eu taith i lwyddiant. Bydd hyn wedyn yn gweithredu fel catalydd ar gyfer twf economaidd ac arloesi yn ein AGB."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae cynifer o bobl yn Abertawe a chanddynt syniadau gwych ar gyfer busnesau, ond maent yn aml yn ei chael hi'n anodd gwybod ym mhle i ddechrau.

"Mae'r digwyddiad siop dan yr unto hwn yn ceisio helpu i fynd i'r afael â'r broblem honno drwy ddarparu'r holl gyngor ac arbenigedd sydd eu hangen er mwyn ysbrydoli ac arwain entrepreneuriaid uchelgeisiol ein dinas i gymryd y camau nesaf a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael yma.

"Yn ogystal â thîm cymorth i fusnesau'r Cyngor, bydd cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau a busnesau eraill ar gael drwy gydol y diwrnod i ateb cwestiynau, rhwydweithio a rhannu cyngor."

Ymysg y cymorth sydd ar gael gan Gyngor Abertawe mae grantiau o hyd at £10,000, a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Gall y grant helpu i ariannu costau mewn perthynas â chyfarpar, hyfforddiant, achrediad a marchnata.

Ewch yma i gael tocynnau am ddim i ddigwyddiad Expo Busnesau Newydd Abertawe.