Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun gwaith newydd yn helpu dinasyddion i gymryd cam mawr ymlaen i fyd gwaith

​​​​​​​Mae cynllun newydd gan Gyngor Abertawe'n cynnig gobaith newydd i unigolion sydd am ddod o hyd i waith.

Ezri Vaughan

Ezri Vaughan

Mae'r prosiect Camau i Gyflogaeth Abertawe (STEPS) yn cynnig lleoliadau gwaith â thâl gyda thimau'r cyngor.

Mae'n rhoi cyfleoedd i ennill incwm yn ogystal â gwybodaeth, profiad a hyfforddiant.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor,Alyson Pugh, "Mae STEPS yn ffordd flaengar i ni ddefnyddio'n sgiliau a'n timau ein hunain i helpu pobl i ddod o hyd i waith."

Sicrhawyd swm o £600,000 i dreialu'r cynllun gan dîm datblygu economaidd a chyllid allanol y cyngor drwy gronfa adferiad economaidd y cyngor.

Mae'r rheini sydd wedi cymryd rhan yn STEPS hyd yn hyn yn cynnwys:

  • Derek Blundell sydd bellach wedi'i gyflogi fel swyddog parcio ceir gyda thîm meysydd parcio'r ddinas, yn dilyn lleoliad llwyddiannus gyda STEPS.
  • Meghan Ferguson, sydd yng nghanol lleoliad STEPS yn is-adran gyllid Adran Gwasanaethau Adeiladau y cyngor.
  • Jack Thomas, sydd wedi cael swydd barhaol - yn dilyn cyfweliad - fel cynorthwyydd meysydd parcio yn nhîm parcio'r cyngor ar ôl gweithio yno ar leoliad STEPS.
  • Matthew Smith, sydd wedi sicrhau swydd barhaol fel cynorthwyydd meysydd parcio yn nhîm parcio'r cyngor bedair wythnos yn unig ar ôl dechrau ei leoliad STEPS.
  • Ezri Vaughan, sydd wedi cwblhau lleoliad STEPS o fewn tîm tlodi a'i atal y cyngor fel swyddog cymorth marchnata a chyfathrebu.

Rhagor o wybodaeth: steps@abertawe.gov.uk, 01792 637112

Llun: Ezri Vaughan.

 

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023