Sut roedd y Strand yn arfer edrych wrth iddi wynebu dyfodol newydd
Dyma lun o'r Strand slawer dydd wrth i gynlluniau ddatblygu'n gyflym i greu dyfodol newydd ar gyfer yr ardal.
Mae'r llun o ddechrau'r 20fed ganrif a ddarparwyd gan Wasanaethau Archifau Gorllewin Morgannwg yn dangos busnesau'n gweithredu ar Y Strand ar y pryd, yn ogystal â hen gerbydau modur, fan ddosbarthu a cherbyd.
Cafodd ei ryddhau wrth i baratoadau barhau ar gynlluniau newydd i roi bywyd newydd i'r Strand a dathlu hanes y stryd.
Mae cynlluniau Cyngor Abertawe yn cynnwys creu unedau manwerthu bach i fasnachwyr lleol wrth y bwâu Fictoraidd hanesyddol ar Y Strand, a fydd yn cael eu defnyddio eto. Bydd lifft o'r Strand i'r Stryd Fawr yn cael ei chyflwyno hefyd a gwneir gwaith ger y bwâu a'r twnelau i wella golwg a naws Y Strand yn sylweddol. Bydd podiau manwerthu a gwell goleuadau yn cael eu rhoi yn y twnelau.
Gwnaed y cynllun hwn yn bosib diolch i gais llwyddiannus y cyngor am £20m o gyllid Codi'r Gwastad gan Lywodraeth y DU.
Mae agweddau eraill ar brosiect i wella Cwm Tawe Isaf yn gyffredinol yn cynnwys gosod pontynau newydd i gychod sy'n teithio ar hyd afon Tawe - y bwriedir lleoli un ohonynt yn agos i'r Strand.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae rhaglen adfywio sy'n werth mwy nag £1bn yn mynd rhagddi ar draws Abertawe i greu swyddi i bobl leol a buddion i fusnesau lleol. Gwarchod a dathlu'n treftadaeth yw thema allweddol y cynlluniau hyn.
"Chwaraeodd Y Strand ran bwysig ym mywyd Abertawe am flynyddoedd lawer, ond yn ddiweddar mae wedi dod yn stryd flinedig yr olwg, heb ddigon o ddefnydd arni.
"Felly nod ein cynlluniau ar gyfer Y Strand yw helpu i fynd i'r afael â hyn drwy ddathlu a chadw ei hanes, creu cyfleoedd masnachu i fusnesau lleol a chynhyrchu gwell cysylltiadau rhwng Y Strand ac ardaloedd fel Y Stryd Fawr a'r orsaf drenau. Mae paratoadau cynnar ar gyfer y prosiect eisoes ar y gweill.
"Bydd y prosiect hwn yn dilyn gwaith sydd eisoes wedi cychwyn i ddefnyddio Theatr y Palas ar y Stryd Fawr unwaith eto. Bydd distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd ar hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa hefyd yn cael eu trosglwyddo'n fuan i'r brand diodydd Penderyn er mwyn iddynt osod offer a dodrefn yno'n fewnol, a gwnaed cryn waith cadwraeth yno yn y blynyddoedd diweddar."
Mae agweddau eraill ar brosiect gwella Cwm Tawe Isaf yn cynnwys gwaith adfer pellach ar safle'r gwaith copr. Bydd hyn yn cynnwys creu bwyty a lleoedd bwyd a diod yn hen adeilad y labordy.
Bydd buddsoddiad ym mheiriandai Musgrave a Vivian yn arwain at adeiladu lle caeëdig newydd i greu atyniad treftadaeth i ymwelwyr a chaffi. Bydd y trac a'r locomotif yn sied V&S yn cael eu hailosod hefyd, caiff marchnadle ei chreu yn hen adeilad y Felin Rolio, a chyflwynir mannau cyhoeddus wedi'u tirlunio ar y safle i ymwelwyr.
Bwriedir codi estyniad newydd yn Amgueddfa Abertawe - sy'n cael ei ddathlu'n eang fel yr amgueddfa hynaf yng Nghymru - i greu mwy o leoedd arddangos a dysgu ac orielau a dod â rhan o'r casgliad sydd wedi'i storio yn y Felin Rolio ar safle'r gwaith copr i leoliad cyhoeddus i'w harddangos.Mae cynlluniau amlinellol yn cynnwys syniadau ar gyfer ardaloedd cadwraeth a chasglu ynghyd â mannau addysg, dysgu a chaffis a allai hefyd greu gwell cysylltiadau â'r man agored y tu ôl i Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gerllaw.
Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, amcangyfrifir y bydd prosiect gwella Cwm Tawe Isaf yn werth £9.4m y flwyddyn i economi'r ddinas. Disgwylir iddo hefyd greu 69 o swyddi newydd wrth helpu i gefnogi mwy na 100 o swyddi cyfredol.