Toglo gwelededd dewislen symudol

Gadewch i ni eich helpu i joio gweddill yr haf!

Gwnewch y gorau o'ch atyniadau awyr agored a reolir gan y cyngor am weddill misoedd yr haf!

Crazy Golf, Swansea

Crazy Golf, Swansea

Mae digonedd o atyniadau am ddim neu am gost isel, gan gynnwys parciau, traethau, llwybrau beicio, Lido Blackpill, pedalos Llyn Cychod Singleton a golff gwallgof ym mharciau Southend a Singleton.

Mae llawer o feysydd chwarae hefyd, a chastell hanesyddol Ystumllwynarth. Mae atyniadau dan do am ddim fel Canolfan Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe ac Oriel Gelf Glynn Vivian hefyd yn helpu yn ystod yr argyfwng costau byw, ynghyd â llyfrgelloedd cymunedol, y mae pob un ohonynt yn cynnal gweithgareddau am ddim ar eich cyfer.

Mae tîm Chwaraeon ac Iechyd y cyngor wedi bod yn brysur yn ystod yr haf yn cynnal gweithgareddau wythnosol fel sesiynau cerdded nordig, ffitrwydd llai heriol, pilates a T'ai Chi. Ar 1 Medi rhwng 10am ac 1pm maent yn bwriadu cefnogi diwrnod hwyl i'r teulu ym Mharc Dynfant.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Er bod gwyliau haf yr ysgol yn dod i ben, rydym yn dal yn awyddus i roi ystod o gyfleoedd i deuluoedd gael hwyl a mwynhau eu hunain, naill ai am ddim neu am gost isel. "Rydym yn parhau i gynnig atyniadau awyr agored gwych sy'n gwneud lles i iechyd a lles pobl."

Cefnogwyd gweithgareddau'r haf hwn gan ymgyrch teithio ar fysus am ddim ar draws y ddinas dan arweiniad y cyngor, rhaglen fwyaf erioed y ddinas o weithgareddau cymorthdaledig neu am ddim, rhaglen Bwyd a Hwyl a ariennir gan Lywodraeth Cymru, grantiau'r cyngor i fentrau bwyd cymunedol a banciau bwyd, a chludiant a weithredir gan y cyngor ar gyfer prosiectau 'Mae Pawb yn Haeddu Haf', sy'n helpu i fwydo pobl ifanc.

Mae partneriaid y cyngor wedi bod yn rhedeg clybiau brecwast ac mae rhai aelodau ward hefyd yn cefnogi clybiau brecwast a chinio yn eu wardiau.

  • Parciau a gweithgareddau awyr agored: www.abertawe.gov.uk/parciau
  • Traethau: www.abertawe.gov.uk/traethau
  • Lido Blackpill: www.abertawe.gov.uk/lidoblackpill
  • Llyn Cychod Singleton: www.abertawe.gov.uk/llyncychodsingleton
  • Castell Ystumllwynarth: www.abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth
  • Canolfan Dylan Thomas: www.dylanthomas.com/cy/
  • Amgueddfa Abertawe: www.swanseamuseum.co.uk/?lang=cy
  • Glynn Vivian: www.glynnvivian.co.uk/?lang=cy
  • Llyfrgelloedd: www.abertawe.gov.uk/llyfrgelloedd
  • Chwaraeon ac Iechyd: www.abertawe.gov.uk/chwaraeonaciechyd
  • Cymorth Costau Byw: www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Awst 2023